Babi wedi goroesi wedi i'w fam blymio 10 llawr o dŵr o fflatiau

Emma Atkinson

Fe wnaeth babi oroesi wedi i’w fam “wthio ei hun yn fwriadol” allan o ffenestr a syrthio 10 llawr o dŵr o fflatiau, clywodd cwest ddydd Iau.

Daeth crwner i’r casgliad bod Emma Atkinson wedi mynd drwy’r ffenestr yn fwriadol ond efallai nad oedd hi wedi bwriadu lladd ei hun.

Cafodd merch Ms Atkinson, oedd yn fam i bump o blant, ei geni’n llwyddiannus o fewn hanner awr ar ôl syrthio o Shakespeare Towers yn Leeds, ar 22 Hydref 2024.

Clywodd y cwest fod Ms Atkinson, 38 oed, a oedd dros saith mis yn feichiog, wedi mynd i ymweld â’i thad, David Atkinson, a oedd yn byw ar y nawfed llawr.

Dywedodd Mr Atkinson wrth yr heddlu fod ei ferch wedi mynd i mewn i ystafell fyw’r fflat, wedi eistedd ar gefn cadair ac wedi dechrau ysmygu sigarét o flaen y ffenestr.

Mewn datganiad i’r cwest dywedodd y tad ei bod hi wedi tynnu’r cliciedi diogelwch oddi ar y ffenestr a’i hagor yn llawn, nes ei bod yn llorweddol.

Clywodd y cwest fod Mr Atkinson wedi gofyn iddi beth oedd hi’n ei wneud ac wedi dweud wrthi am gau’r ffenestr gan ei bod yn oer, ond dywedodd hi wrtho “am beidio â phoeni gan mai dim ond cael ychydig o awyr iach oedd hi”.

Yn fuan wedyn, clywodd Ms Atkinson yn dweud: “Dw i’n mynd", ac fe welodd ei thraed yn mynd allan drwy’r ffenestr.

Clywodd y cwest ei fod wedi rhedeg draw ac wedi gweld ei ferch ar y palmant islaw.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Emily Parnham fod cwymp Ms Atkinson o’r ffenestr am 10.20 y bore wedi ei ffilmio ar gamerâu teledu cylch cyfyng.

Clywodd y crwner fod parafeddygon a gyrhaeddodd y safle wedi canfod nad oedd Ms Atkinson wedi goroesi’r cwymp, ac roedden nhw wedi canolbwyntio ar achub y babi.

Cafodd y plentyn ei eni drwy lawdriniaeth Cesaraidd frys ar ôl i Ms Atkinson gyrraedd Ysbyty Cyffredinol Leeds.

Clywodd y cwest fod Mr Atkinson “yn credu bod Emma wedi mynd i’r fflat gyda’r bwriad o neidio allan o’r ffenestr i ladd ei hun”.

Dywedodd Ms Parnham fod ymchwiliad Heddlu Gorllewin Sir Efrog wedi dod i’r casgliad nad oedd unrhyw amgylchiadau amheus.

Dywedodd y crwner Naomi McLoughlin fod Ms Atkinson wedi cael trafferthion gyda’i hiechyd meddwl yn y gorffennol, a’i bod yn poeni am y posibilrwydd o gael ei hanfon i’r carchar ar ôl methu ag ymddangos yn y llys ychydig ddyddiau cyn ei marwolaeth, mewn cysylltiad â honiad o ddwyn o siop.

Dywedodd ei theulu, a oedd yn bresennol yn y cwest, ei bod “mor gyffrous” am enedigaeth ei babi ac “na fyddai hi byth wedi gadael ei phlant”, gan ychwanegu bod ei “bywyd yn troi o amgylch ei phlant”.

Dywedodd Ms McLoughlin nad oedd digon o dystiolaeth i ddweud a oedd marwolaeth Ms Atkinson yn hunanladdiad neu’n ddamwain, ac fe gofnododd gasgliad naratif.

Ychwanegodd: “Bu farw Emma Atkinson o ganlyniad i weithred a achosodd hi ei hun, ond nid oes modd canfod beth oedd ei bwriad tebygol y naill ffordd na’r llall.

“Mae’n rhaid i mi ystyried y cwestiwn ynghylch ei bwriad.

“Rwy’n nodi’r weithred fwriadol o dynnu’r cliciedi diogelwch oddi ar y ffenestr… a’r ffordd y gwnaeth hi syrthio, a gafodd ei gofnodi ar y teledu cylch cyfyng.”

Ychwanegodd nad oedd unrhyw bryderon wedi cael eu codi am ei hiechyd meddwl yn yr wythnosau cyn ei marwolaeth, a’i bod wedi bod yn gwneud cynlluniau i weld ei theulu.

Dywedodd Ms McLoughlin fod Ms Atkinson “yn fenyw yr oedd pawb oedd yn ei hadnabod yn ei charu’n fawr”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.