Arestio menyw yn dilyn adroddiadau am saethu ym Mhen-y-bont
Mae menyw wedi ei harestio wedi i Heddlu De Cymru ymateb i adroddiadau fod unigolyn wedi ei saethu ym Mhen-y-bont ar Ogwr nos Fawrth.
Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ ym mhentref Trelales am 19:55.
Mae menyw 29 oed o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael ei harestio ar amheuaeth o achosi aflonyddwch cyhoeddus a bod â dryll aer yn ei meddiant gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
Mae hi'n parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Fe wnaeth dyn ddioddef mân anafiadau o ganlyniad i'r digwyddiad, ac mae ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau.