
Cyn-gadeirydd YesCymru yn cydnabod bai am drafferthion y mudiad

Cyn-gadeirydd YesCymru yn cydnabod bai am drafferthion y mudiad
Mae cyn-gadeirydd YesCymru wedi cymryd cyfrifoldeb am drafferthion y mudiad dros yr haf, er mae’n mynnu bod gan y grŵp dyfodol disglair.
Cafodd YesCymru ei sefydlu yn 2014 yn dilyn refferendwm annibyniaeth yr Alban, i ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r mudiad wedi tyfu i fod yn fwy amlwg, gyda gorymdeithiau drwy ganol Caerdydd, Merthyr Tudful a Chaernarfon yn denu miloedd.
Ers dechrau’r pandemig Covid-19 mae aelodaeth y grŵp wedi cynyddu o 2,500 i dros 18,000, sy'n golygu fod YesCymru yn un o fudiadau gwleidyddol mwyaf Cymru.
Serch hynny mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai anodd gyda rhwygiadau mewnol, dadlau cyhoeddus ar gyfryngau cymdeithasol a phleidlais diffyg hyder yn y pwyllgor canolog.

Mewn cyfweliad â’r Byd yn ei Le ar S4C, dywedodd y cyn-gadeirydd Siôn Jobbins:
“Nes i gamgymeriadau. Mae ‘na stwff pob un dydd dros y tri mis diwethaf rwy’n meddwl sy’n bethau dylwn ni di neud llynedd.
“Dylswn i efallai ‘di gweld bod eisiau cryfhau’r cyfansoddiad. Dylswn i fod ‘di gallu rhagweld gyda’r twf aelodaeth mae posibilrwydd bod mwy o ddadleuon.
“Nes i ddim. Fi oedd ar fai am hynny fel cadeirydd am beidio rhoi’r arweiniad yna. Dwi’n teimlo hynny i’r byw a dwi’n teimlo mae ‘na bobl wedi cael loes. Mae ‘na bobl da wedi cael loes a dwi’n teimlo hynny yn ddyddiol felly mae’r bai arna i.”
Fe wnaeth Mr Jobbins gamu o’r neilltu yng Ngorffennaf wedi cyfnod cythryblus i YesCymru oedd yn cynnwys cyhuddiadau o drawsffobia o fewn y mudiad, cynnydd mewn aflonyddu rhwng aelodau ar wefannau cymdeithasol a methiant i brosesu cwynion swyddogol yn effeithiol.
Yn fuan ar ôl i Mr Jobbins adael ei rôl, cynhaliwyd pleidlais o ddiffyg hyder gyda grwpiau llawr gwlad YesCymru yn dangos eu hanfodlonrwydd â’r rhai ar frig y mudiad.
Fe wnaeth y pwyllgor canolog cyfan ymddiswyddo o ganlyniad i’r bleidlais honno ac mae YesCymru wedi bod heb gadeirydd a phwyllgor canolog ers dechrau Awst.

Mae’r mudiad nawr yn nwylo cwmni allanol a does dim un dyddiad wedi cael ei gadarnhau am yr etholiad nesaf. Mae nifer o aelodau yn galw am ddiwygiadau i gyfansoddiad YesCymru i rwystro rhywbeth tebyg rhag digwydd eto.
Serch problemau diweddar YesCymru, mae Mr Jobbins dal yn grediniol bod dyfodol disglair i’r mudiad:
“Dwi’n hollol hyderus bod dyddiau gorau YesCymru i ddod.
“Mae Covid gobeithio yn dod i ben. Bydd llai o drafod jyst ar y cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn gallu mynd nôl mas ar y stryd yn iawn.”
Ychwanegodd: “Unwaith bydd pobl yn gallu mynd mas ar y stryd a thrafod yn iawn dwi’n meddwl bydd hwnna'n ysgafnhau’r baich sydd wedi bod ar bobl.”