Eisteddfodd y Garreg Las: Y Goron yn ganolbwynt i'r cystadlu ddydd Llun

Y Goron

Cystadleuaeth y Goron fydd canolbwynt y cystadlu yn Eisteddfod y Garreg Las yn Llantwd ddydd Llun.

Cafodd y Goron eleni ei chynllunio a'i chreu gan Elen a Dylan Bowen, gŵr a gwraig sy'n rhedeg cwmni Bowen Jewellery, yn eu gweithdy yng Nghastell Newydd Emlyn.

Bydd yn cael ei chyflwyno i'r bardd buddugol os oes teilyngdod am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y testun ‘Adnabod’. 

Y beirniaid eleni yw Damian Walford Davies, Gwynfor Dafydd a Nia Powell.

Mae 41 wedi ymgeisio am y Goron eleni ac fe fydd y seremoni yn dechrau ar Faes y Brifwyl am 16:00.

Cafodd gwneuthurwyr y Goron eu hysbrydoli gan yr hen ddihareb amaethyddol, ‘Aur dan y rhedyn, arian dan yr eithin, newyn dan y grug’, sy’n cyfeirio at ansawdd gwahanol dirweddau.

Cyflwynir y Goron gan deulu’r Parch WJ Gruffydd (Elerydd) a Mrs Jane Gruffydd a hynny "er cof, ac mewn gwerthfawrogiad o deyrngarwch a haelioni aelwydydd bro’r Eisteddfod yn ystod eu gweinidogaeth yn yr ardal".

Mae'r wobr ariannol o £750 yn cael ei rhoi gan bapur bro Y Cardi Bach, er cof am eu cyn-olygyddion Mrs Rhoswen Llewellyn a’r Parchedig Euros Wyn Jones.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.