Ymchwiliad llofruddiaeth Gorseinon: Agor a gohirio cwest dyn ifanc

Ceiran Evans

Mae cwest dyn ifanc a fu farw yng Ngorseinon mewn digwyddiad sy'n destun ymchwiliad llofruddiaeth gan yr heddlu wedi ei agor a'i ohirio.

Fe gafodd cwest Ceiran Evans, 18 oed, o Gorseinon ei ohirio tra bod yr ymchwiliad troseddol yn mynd rhagddo.

Ymddangosodd Tyler Ford gerbron Llys y Goron Abertawe ar 14 Gorffennaf wedi’i gyhuddo o lofruddio Ceiran Evans.

Mae’r dyn 18 oed, sydd wedi bod yn bencampwr cicbocsio’r byd naw gwaith, hefyd wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio ail berson 19 oed.

Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â gwrthdrawiad rhwng car a beic modur oddi ar y ffordd ar Heol Pen Cae Crwn, Gorseinon, ar 9 Gorffennaf.

Image
Tyler Ford
Tyler Ford

Rhoddodd teulu Mr Evans deyrnged iddo bythefnos yn ôl.

Fe ddywedon nhw: “Roedd Ceiran yn cael ei garu’n fwy nag y gall unrhyw eiriau ei fynegi, a bydd colled ar ei ôl bob dydd.

“Roedd ei galon garedig, ei synnwyr digrifwch direidus, ei natur gariadus a’i wên olygus yn dod â chymaint o lawenydd i bawb oedd yn ei adnabod.

“Fe fydd yn fabi bach annwyl i ni am byth, yn cael ei garu bob amser, ei gofio bob amser, a byth yn cael ei anghofio.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.