
Protest yn ceisio codi ymwybyddiaeth o effaith llygredd ar afonydd Cymru

Mae protestwyr yng Nghaerdydd yn rhybuddio bydd y rhan fwyaf o afonydd y wlad yn wynebu dyfodol tywyll os nad oes newid i’n hamgylchedd a bywyd gwyllt yn fuan.
Yn cael ei hadnabod yn lleol fel "Menyw Wyllt y Gwy", mae Angela Jones yn ceisio ysgogi newid gydag arch sydd wedi addurno gyda’r geiriau “Death of the Wye”.
Fe wnaeth Ms Jones nofio drwy rannau o Afon Gwy ac yna trwy Bae Caerdydd i dynnu sylw at yr hyn mae'n disgrifio fel problem “ddifrifol iawn” sydd bellach yn wynebu Cymru.
Dywed Llywodraeth Cymru fod gwarchod a gwella ar yr amgylchedd ddŵr yng Nghymru yn flaenoriaeth.

“Mae Afon Gwy wedi bod yn rhan o fy mywyd ers degawdau, fy swyddfa i, dyna yw fy lle chwarae. Mae amgylchedd a bywyd gwyllt y Gwy heb ei ail, hoff afon y genedl yw e.
"Er hynny, rydyn ni wedi caniatáu iddo farw o flaen ein llygaid trwy lygredd, trwy ffermio dofednod a thrwy lawer o garthffosiaeth yn cael ei dympio yno gan y cwmnïau dŵr.”
Yn ôl Angela Jones, mae’r broblem wedi bodoli eisoes ac mae ei hymdrechion ym Mae Caerdydd yn dod wedi i ymdrechion blaenorol fethu â denu sylw'r sawl sydd â grym.
“Am flynyddoedd rwyf wedi bod yn dweud wrth bobl am y broblem ac yn ysgrifennu am y llygredd, felly penderfynais gael arch a'i thynnu ar hyd y Gwy, i ddod â hi i'r Senedd, ac yna mynd â hi i Lundain.
"Os na ddaw newid, rydym yn mynd i golli ein hafon hyfryd, sydd fod i gael ei warchod, ond nid yw'r asiantaethau sydd allan yno i'w warchod yn gwneud eu swydd".

Mae Ms Jones yn credu bod yn rhaid i’r Llywodraeth mynd i'r afael â’r broblem a chosbi’r cwmnïoedd sy’n dinistrio’r afon os yr ydym am weld gwelliant.
“Rydyn ni am i'r llywodraeth gymryd sylw o'r hyn sy'n digwydd yn ein hafonydd, mae'r Gwy yn afon sydd wedi'i gwarchod ond rydyn ni'n caniatáu iddi gael ei defnyddio fel carthffos agored.
"Nid ydym yn cosbi’r cwmnïau dŵr mawr a'r cwmnïau dofednod sy'n lladd ein hafon a'i bywyd gwyllt, felly mae angen i ni gamu i'r adwy".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gwarchod a gwella ar ein hamgylchedd ddŵr yn flaenoriaeth ar gyfer y llywodraeth hon ac rydym yn croesawu ymgyrchu gan gymunedau lleol a grwpiau cefnogol i wella a chynnal iechyd afonydd yng Nghymru".
Ychwanegodd y llefarydd bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi nifer o fesurau ar waith yn y maes hwn a'u bod yn parhau i weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i fynd i'r afael ag ansawdd dŵr mewn afonydd megis Afon Gwy ac Afon Wysg.
Lluniau: ITV Cymru