Newyddion S4C

'Angen ailfeddwl cyngor Covid-19 i ysgolion', medd UCAC

Newyddion S4C 14/09/2021

'Angen ailfeddwl cyngor Covid-19 i ysgolion', medd UCAC

Mae undeb athrawon wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ailfeddwl y cyngor y mae ysgolion yn ei dderbyn er mwyn atal lledaeniad Covid-19. 

Yn ôl UCAC, mae angen cael y cydbwysedd yn iawn rhwng sicrhau nad yw addysg disgyblion yn cael ei effeithio, a lleihau lledaeniad o'r feirws. 

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r fframwaith wedi ei hysgrifennu er mwyn i ysgolion fedru ymateb i ddifrifoldeb Covid-19 yn eu hardaloedd.

Daw sylwadau'r undeb wrth i ysgolion yn ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot dderbyn cyngor i ailgyflwyno mesurau i helpu i atal lledaeniad Covid-19 oherwydd nifer uchel o achosion positif yn y rhanbarth.

'Lefelau'r haint mor uchel â Rhagfyr'

Mae disgyblion a staff ysgolion uwchradd yn cael eu hannog i gymryd Profion Llif Ochrol ddwywaith yr wythnos, a gwisgo masgiau ar gludiant ysgol, mewn ardaloedd cymunedol ac wrth symud o gwmpas ysgolion.

Bwrdd Iechyd Bae Abertawe sydd wedi cyhoeddi’r cyngor oherwydd lefelau uchel o’r haint yn Abertawe ac yng Nghastell-nedd Port Talbot.

“Mae lefelau’r haint bellach mor uchel â mis Rhagfyr diwethaf,” meddai Dr Keith Reid, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ar gyfer bwrdd iechyd Bae Abertawe.

“Nid yw ysgolion eu hunain yn risg uchel, ond rydym yn gofyn iddynt gymryd camau i helpu i atal y feirws rhag lledaenu yn y gymuned ehangach."

Abertawe sydd â'r nifer uchaf o achosion coronafeirws wedi'u cadarnhau yng Nghymru dros yr wythnos ddiwethaf: 1,614, yn ôl yr ystadegau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae ysgolion wedi cael cyngor i ail-gyflwyno systemau unffordd mewn coridorau, ad-drefnu desgiau fel eu bod i gyd yn wynebu’r un cyfeiriad, ac i beidio â chynnal gwasanaeth yn y bore.

Image
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe (Llun: Google)

“Fe wnaethon ni benderfyniad cyn yr haf ein bod ni’n cadw’r mesurau oedd ganddon ni fel gwisgo mygydau, awyru, cadw pellter, mae nhw i gyd yn aros," meddai Simon Davies, Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe.

“Mae ‘na gonsyrn naturiol pan ma ‘na pobol o gartrefi lle mae rhywun gyda’r feirws yn dod mewn i’r ysgol ond ni’n siŵr bod y polisi wedi selio ar ddata cadarn.

“Ni’n ffodus bod lot o’n rhieni ni sydd wedi cael achosion adre wedi bod yn synhwyrol tu hwnt ac wedi mynnu bod brodyr a chwiorydd yn mynd i cael brofion cyn eu bod nhw’n dod nôl,” meddai.

'Rhaid cael cydbwysedd' 

Mae undeb athrawon UCAC yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail-feddwl am y cyngor i ddisgyblion ynglŷn â hunanynysu pan mae rhywun adref gyda symptomau.

“Mae’n rhaid cael cydbwysedd rhwng sicrhau bod cymaint o ddisgyblion â phosib yn cael addysg wyneb yn wyneb ac arafu lledaeniad y feirws,” meddai Rebecca Williams, Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.

“Rydyn ni am i Lywodraeth Cymru edrych ar eto ar ofyn i ddisgyblion hunanynysu wrth iddyn nhw aros am ganlyniadau prawf PCR.

"Ar hyn o bryd rydych chi'n cael mynd i'r ysgol pan rydych chi'n aros am y canlyniad ac rwy'n credu pe byddem ni'n gwneud y newid bach hwnnw, gallai wneud gwahaniaeth eithaf sylweddol i ledaeniad y feirws mewn ysgolion."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.