Llafur a Phlaid Cymru mewn ‘trafodaethau dechreuol’ i gydweithio

NS4C

Mae Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn cynnal trafodaethau ar sut y gallan nhw gyd-weithio yn ystod y tymor Senedd newydd.

Mewn datganiad ar y cyd ddydd Mawrth, fe ddywedodd y llywodraeth a Phlaid Cymru fod y trafodaethau yn rhai "dechreuol" a'u bod yn parhau i archwilio “cytundeb cydweithredu uchelgeisiol”.

Mae’r pleidiau hefyd yn ystyried “trefniadau llywodraethiant” lle gall Lywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru weithio gyda’i gilydd ar bolisïau penodol.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw'r trafodaethau yn "wallgofrwydd" gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am fwy o fanylion.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn nodi rhai o’r meysydd lle maent yn ystyried cyd-weithio, gan gynnwys paratoi am ddyfodol tu hwnt i’r pandemig, ymateb i’r argyfwng hinsawdd ac i ganlyniadau ymadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywed y datganiad hefyd ei bod hi’n “bwysicach nac erioed” bod pleidiau gwleidyddol yn cydweithio yn sgil yr hyn maen nhw'n ei ddisgrifio fel “bygythiad i ddatganoli”.

'Gweld y manylion'

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ei bod hi'n bwysig bod pleidiau gwleidyddol yn cydweithio.

Ychwanegodd Ms Dodds: "Edrychaf ymlaen at weld y manylion, ond gallaf eich sicrhau y byddaf fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn parhau i fynnu gwell ar gyfer pobl gyffredin ar draws Cymru a'u dal i gyfrif.

"Mewn cyd-destun ehangach o ansefydlogrwydd swyddi, costau byw cynyddol, a'r coronafeirws, mae pobl ar draws Cymru angen gweld beth mae'r cytundeb hwn yn ei olygu'n ymarferol ar gyfer eu bywydau bob dydd".

Nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn gefnogol o'r cyhoeddiad gan alw'r trafodaethau yn "wallgofrwydd".

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Mae ond angen i chi edrych ar gynllun polisi Llafur Cymru i weld nad oes llawer o syniadau yn weddill.  Ond mae troi at genedlaetholwyr heb fandad yn weithred o anobaith a gwallgofrwydd.

"Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru yn honni eu bod yn blaid dros newid ond maen nhw bob amser yn darparu ar gyfer eu meistri Llafur - edrychwch ar ba mor anaml maen nhw'n pleidleisio yn erbyn y gyllideb."

Cyd-weithio yn y gorffennol

Nid dyma’r tro cyntaf i’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru gyd-weithio. 

Bu llywodraeth glymbleidiol rhwng y ddwy blaid rhwng 2007 a 2011, gyda chyn-arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, yn Ddirprwy Brif Weinidog.

Yn dilyn Etholiadau’r Senedd fis Mai, mae gan y Blaid Lafur 30 o seddi yn y siambr.

Mae hyn un yn fwy na’r nifer ar ddiwedd cyfnod y Senedd flaenorol. 

Gyda hanner y seddi yn y Senedd bellach yn rhai Llafur, mae’r blaid wedi ffurfio llywodraeth leiafrifol.

Mae disgwyl i’r trafodaethau barhau dros yr wythnosau nesaf.