Y Barri: Cyhuddo dyn yn dilyn ymosodiad honedig
Mae Heddlu’r De wedi cyhuddo dyn lleol yn dilyn ymosodiad honedig yn y Barri nos Wener.
Cafodd swyddogion eu galw i Ffordd Skomer am tua 23:20 nos Wener.
Dywedodd y llu eu bod nhw wedi cyhuddo Liam Chichester, 30 oed o’r Barri, o niwed corfforol difrifol gyda bwriad yn dilyn y digwyddiad.
Cafodd dyn 43 oed, hefyd o’r Barri, ei gludo i’r ysbyty gydag anaf sylweddol i’w ben.
Mae’n parhau i fod yn yr ysbyty.
Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2600229849.