'Brenin y Gogledd': Pwy yw Prif Weinidog newydd Prydain?
Bydd Andy Burnham yn dod yn Brif Weinidog newydd y DU ddydd Llun gan ddisodli Keir Starmer.
Mae disgwyl iddo ddweud yn ei araith gyntaf bod angen i'r wlad fod yn onest am yr heriau sy’n ei hwynebu.
Bydd hefyd yn pwysleisio'r angen am wleidyddiaeth fwy sefydlog a chyfrifol ac yn addo adfer ffydd yn y llywodraeth.
Ond pwy yw cyn faer Manceinion?
Cafodd Andrew Murray Burnham ei eni yn Aintree, ger Lerpwl, ar 7 Ionawr 1970.
Cafodd ei fagu yng Nghulcheth, Swydd Gaer.
Roedd ei dad yn beiriannydd a'i fam yn dderbynyddes mewn meddygfa ac yn gefnogwyr Llafur. Fe ddatblygodd ddiddordeb yn ifanc mewn gwleidyddiaeth.
Aeth ati i astudio Saesneg ym Mhrifysgol Caergrawnt. Roedd o a'i frodyr y rhai cyntaf o'r teulu i fynd i'r brifysgol.
Mae'n dweud fod ei gariad tuag at gerddoriaeth indie gan fandiau o Fanceinion wedi rhoi "hunaniaeth iddo" pan oedd yn stryglo i "ffitio mewn" yn y brifysgol.
Cefndir gwleidyddol
Cyn iddo gael ei ethol i Dŷ’r Cyffredin, roedd yn gweithio fel ymchwilydd i’r AS Llafur Tessa Jowell, i Gydffederasiwn y GIG ac i dasglu pêl-droed y llywodraeth.
Cafodd ei ethol yn AS dros Leigh am y tro cyntaf yn 2001, gan gynrychioli’r etholaeth am 16 mlynedd.
Daeth Burnham yn aelod o gabinet Gordon Brown pan oedd Llafur mewn llywodraeth.
Rhwng 2007 a 2008 roedd yn Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, cyn dod yn Ysgrifennydd Diwylliant ac yna’n Ysgrifennydd Iechyd.
Pan oedd mewn gwasanaeth coffa ar gyfer trychineb Hillsborough fel yr Ysgrifennydd Diwylliant cafodd ei heclo.
Fe achosodd hynny iddo godi'r mater yn y cabinet ac i wthio'r llywodraeth i ryddhau'r ffeiliau i gyd ar y mater. Yn y pendraw cafodd ail ymchwiliad ei gynnal.
Yn ddiweddarach, daeth yn Ysgrifennydd Iechyd yr Wrthblaid ac yn Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid.
Mae Andy Burnham wedi ceisio dod yn arweinydd y Blaid Lafur sawl gwaith o'r blaen.
Fe safodd yn etholiad arweinyddiaeth y blaid yn 2010, ond daeth yn bedwerydd yn y gystadleuaeth a gafodd ei hennill gan Ed Miliband.
Safodd eto yn 2015, gan ddod yn ail i Jeremy Corbyn.
Cafodd Corbyn bron i 60% o’r bleidlais, o’i gymharu â 19% i Burnham.
'Brenin y Gogledd'
Gadawodd Burnham San Steffan yn 2017 er mwyn dod yn Faer cyntaf Manceinion Fwyaf.
Cafodd ei ailethol yn 2021 ac eto yn 2024, pan enillodd fwy na 63% o’r bleidlais.
Yn ystod ei gyfnod fel maer, fe ddatblygodd y Bee Network, sef rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig Manceinion Fwyaf.
Daeth gwasanaethau bysiau’r ardal yn ôl dan reolaeth leol, gyda’r awdurdod yn penderfynu ar lwybrau, prisiau a safonau yn hytrach na chwmnïau preifat.
Fe gododd ei broffil cenedlaethol yn sylweddol yn ystod pandemig Covid-19.
Fe wnaeth o wrthwynebu cynlluniau cyfyngiadau Llywodraeth Boris Johnson. Roedd o'n dweud bod y cyfyngiadau yn llymach ar Fanceinion Fwyaf a hynny heb ddarparu digon o gymorth ariannol i weithwyr a busnesau.
Yn sgil ei wrthwynebiad cyhoeddus i’r llywodraeth, cafodd y llysenw “Brenin y Gogledd”.
Dychwelyd i San Steffan
Daeth ei gyfnod fel Maer Manceinion Fwyaf i ben ym mis Mehefin 2026, ar ôl iddo ennill isetholiad Makerfield.
Cafodd yr isetholiad ei gynnal ar ôl i’r AS Llafur Josh Simons ymddiswyddo, gan ddweud ei fod am roi cyfle i Burnham ddychwelyd i San Steffan.
Enillodd Burnham 24,927 o bleidleisiau, sef 54.8% o’r bleidlais, a mwyafrif o 9,231 dros ymgeisydd Reform UK.
Mae Burnham yn galw ei weledigaeth economaidd yn “Manchesterism”, ac mae wedi ei disgrifio fel math o sosialaeth sy’n gyfeillgar i fusnesau.
Mae’n dadlau dros symud mwy o rym a chyllid o San Steffan i lywodraethau lleol ac ardaloedd y tu allan i Lundain.
Mae hefyd wedi cefnogi mwy o reolaeth gyhoeddus dros drafnidiaeth a gwasanaethau hanfodol, adeiladu mwy o dai cymdeithasol a buddsoddi mewn diwydiant.
Mae ei feirniaid yn dweud ei fod yn newid ei safbwyntiau gwleidyddol yn ôl sut mae'r gwynt yn chwythu.
'Economi newydd'
Mewn cyfweliad diweddar gyda y Times mae wedi dweud ei fod eisiau trio "gwneud pethau yn wahanol" gan ddweud bod yna ddegawd wedi bod "pan nad ydy pethau wedi bod yn gweithio".
Dywedodd hefyd yn y cyfweliad fod ganddo weledigaeth ar gyfer "math newydd o economi". Ond mae wedi rhybuddio na fydd hyn yn digwydd yn syth.
Ychwanegodd fod ei dad, sydd yn dioddef o Alzheimer's, ddim yn ymwybodol ei fod ar fin arwain Prydain.
"Mae'n llwyddiant teuluol... er nad ydy o yn gwybod mae'n dal yn gwneud i fi deimlo ein bod ni mewn rhyw ffordd wedi gwneud hyn gyda'n gilydd," meddai wrth y Times.
Lluniau: PA