Posibilrwydd y gallai mygydau fod yn 'orfodol' unwaith eto yn Lloegr
Mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi y gallai’r llywodraeth ail-groesawu canllawiau ar wisgo mygydau yn ystod y gaeaf yn Lloegr.
Roedd Sajid Javid yn cyflwyno cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar sut i ddelio gyda Covid-19 dros y gaeaf i aelodau San Steffan.
Dywedodd y gweinidog ei bod hi'n bosib i bobl orfod "gwisgo masgiau Covid-19 mewn mannau torfol neu gaeedig lle mae pobl mewn cyswllt agos â phobl dydyn nhw ddim yn cwrdd yn arferol".
Fe ddywedodd hefyd y gallai'r cyngor ar weithio gartref gael ei ailgyflwyno, ac y dylai pobl gwrdd tu allan neu agor ffenestri wrth gwrdd dan dro dros y misoedd nesaf.
“Y cynllun rydw i’n cyflwyno o flaen Tŷ’r Cyffredin yw ein cynllun cyntaf,” meddai.
“Ond, rydym wedi gweld yn flaenorol bod Covid-19 yn newid – felly mae gennym gynlluniau eraill.
“Mae cadw canllawiau gorchuddion wyneb, atgoffa’r cyhoedd i fod yn saff, a gofyn i bobl i barhau i weithio gartref yn cael eu cefnogi gan ddata.
“Dylai unrhyw lywodraeth baratoi at ddatblygiadau posib. Rydym wedi dod yn bell ac wedi llwyddo gymaint.”
Cynllun A a B
Yn ystod y gynhadledd i'r wasg yn ddiweddarach ddydd Mawrth, dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson fod 80% o bobl dros 16 oed wedi’u brechu’n llawn a bod gwrthgyrff Covid-19 mewn 90% o oedolion.
Dywedodd hefyd, yn ddibynnol ar oedrannau pobl, fod unigolion oedd heb eu brechu o gwbl yn naw gwaith fwy tebygol o farw o'i gymharu ag unigolion oedd wedi’u brechu’n llawn.
Fe gyflwynodd gynlluniau'r llywodraeth ar gyfer mynd i'r afael a'r feirws, yn ddibynnol ar y sefyllfa iechyd cyhoeddus.
Fe fyddai ‘Cynllun A’ y llywodraeth yn gofyn i bobl i ystyried gwisgo masgiau, i olchi eu dwylo a chael eu profi.
Petai'r sefyllfa yn gwaethygu, fe fyddai 'Cynllun B' yn gwneud hi'n orfodol i wisgo masgiau, cynghori pobl i weithio o adref, a chyflwyno pasbortau brechu.