Mam Boris Johnson wedi marw yn 79 oed
14/09/2021
Mae mam prif weinidog y DU wedi marw yn 79 oed ddydd Llun.
Roedd Charlotte Johnson Wahl yn arlunydd proffesiynol ac wedi bod yn dioddef gyda chyflwr Parkinson's ers peth amser.
Priododd tad Mr Johnson, Stanley Johnson, yn 1963 cyn iddi gwblhau ei gradd yn Rhydychen - y fyfyrwraig israddedig briod gyntaf yn ei choleg ar y pryd.
Fe gafodd y ddau bedwar o blant - Boris, Rachel, Jo a Leo - cyn i'r briodas ddod i ben yn 1978. Priododd yr Americanwr Nicholas Wahl yn 1988 a symud i'r UDA i fyw, cyn dychwelyd i Brydain yn 1996 yn dilyn marwolaeth Mr Wahl.
Darllenwch y stori'n llawn yma.