Dermot Murnaghan, y cyflwynydd newyddion, wedi marw yn 68 oed

Llun: PA
Dermot Murnaghan

Mae’r cyflwynydd newyddion Dermot Murnaghan wedi marw yn 68 oed ar ôl cyfnod o salwch â chanser y prostad, meddai ei deulu. 

Bu farw yn ei gartref yng ngogledd Llundain fore Sadwrn.

“Bu farw’n dawel gyda’i deulu wrth ei ochr,” meddai datganiad gan y teulu. 

Bu Murnaghan yn brif gyflwynydd Sky News am 15 mlynedd cyn gadael y sianel yn 2023.

Yn ystod ei yrfa, bu hefyd yn cyflwyno'r newyddion ar Channel 4, ITV a’r BBC.

Roedd yn un o brif gyflwynwyr BBC Breakfast yn ystod y 2000au cynnar, ac roedd hefyd yn adnabyddus am gyflwyno’r rhaglen gwis Eggheads. 

Cyhoeddodd farwolaeth y Frenhines Elizabeth II i wylwyr Sky News yn 2022, ac fe gyflwynodd nifer o etholiadau a digwyddiadau newyddion mawr yn ystod ei yrfa. 

Datgelodd Murnaghan yn 2025 ei fod wedi cael diagnosis o ganser y prostad cam pedwar.

Yn dilyn y diagnosis, bu’n ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o’r clefyd ac yn annog dynion i gael prawf.

Cymerodd hefyd ran mewn digwyddiad beicio Tour de 4 Syr Chris Hoy i godi arian ac ymwybyddiaeth o ganser. 

Dywedodd cyn-bennaeth Sky News, John Ryley, fod Murnaghan yn “ddarlledwr gwych” a oedd yn cadw ei bwyll ac yn cyfathrebu’n glir dan bwysau mawr. 

Mae Murnaghan yn gadael ei wraig, Maria, a’u pedwar plentyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.