Matthew Rhys yn creu hanes gyda dau enwebiad Emmy
Mae’r actor o Gaerdydd Matthew Rhys wedi creu hanes ar ôl cael ei enwebu am ddwy o brif wobrau actio’r Emmys yn yr un flwyddyn.
Mae wedi’i enwebu yng nghategori’r Prif Actor Gorau mewn Cyfres Gomedi am ei ran fel y Maer Tom Loftis yn Widow’s Bay ar Apple TV.
Bydd Rhys hefyd anelu i gipio'r wobr am yr Prif Actor Gorau mewn Cyfres Gyfyngedig, Cyfres Antholeg neu Ffilm am chwarae rhan Nile Jarvis yn The Beast in Me ar Netflix.
Rhys yw’r actor gwrywaidd cyntaf yn y ganrif hon i gael ei enwebu mewn dau o dri phrif gategori actor arweiniol yr Emmys yn yr un flwyddyn.
John Goodman oedd yr actor gwrywaidd diwethaf i wneud hynny, pan gafodd ei enwebu am Roseanne a Kingfish: A Story of Huey P. Long yn 1995.
Mae Rhys hefyd yn gynhyrchydd gweithredol ar Widow’s Bay, sydd wedi’i enwebu yng nghategori’r Gyfres Gomedi Orau.
Cafodd y gyfres 19 o enwebiadau i gyd, gan gynnwys enwebiadau am actio, ysgrifennu, cyfarwyddo a golygu.
Mae’r gyfres gomedi ac arswyd yn dilyn maer tref ar ynys oddi ar arfordir New England sy’n ceisio denu twristiaid i’r ardal.
Ond mae’n wynebu trigolion ofergoelus sy’n credu bod yr ynys wedi’i melltithio, cyn i’r hen straeon am y lle ddechrau dod yn wir.
Mae Apple wedi derbyn 89 o enwebiadau ar draws 15 o raglenni eleni, y nifer uchaf yn hanes y cwmni.
Mae’r enwebiadau diweddaraf yn golygu bod Rhys wedi cael wyth enwebiad Emmy yn ystod ei yrfa.
Enillodd y wobr am yr Actor Arweiniol Gorau mewn Cyfres Ddrama yn 2018 am ei ran yn The Americans.
Bydd enillwyr 78fed Gwobrau Emmy yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ar 14 Medi.