Y lle gorau i fyw yng Nghymru?
Brynbuga, Sir Fynwy. Llun: Google Maps.
Mae'r Sunday Times wedi enwi'r lle gorau i fyw yng Nghymru.
Brynbuga yn Sir Fynwy sydd yn mynd â'r teitl yn ôl rhestr 'Lleoedd Gorau i Fyw' y papur.
Mae pum lleoliad arall yng Nghymru hefyd wedi eu henwi ar y rhestr.
Roedd y beirniaid yn ystyried agweddau amrywiol gan gynnwys ysgolion, ansawdd aer a diwylliant.