
Carchar am oes i ddyn am lofruddio 'nain hyfryd' yn ei chartref yn Y Rhyl
Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio "nain hyfryd" 69 oed yn ei chartref yn Y Rhyl.
Fe wnaeth Dean Mears, 34, dorri i fewn i gartref Catherine Flynn ar Ffordd Cefndy ar 24 Hydref y llynedd.
Cafodd Mears ei ddedfrydu i garchar am oes ddydd Gwener ac fe fydd yn rhaid iddo dreulio cyfnod lleiafswm o 27 mlynedd yn y carchar.
Ar ôl methu â chael i fewn drwy'r drws, fe dorrodd Mears y ffenest flaen a dringo drwyddi.
Gadawodd funudau yn ddiweddarach ar ôl llofruddio Catherine Flynn, a oedd yn byw yn yr eiddo.

Yn yr achos llys, fe wnaeth Mears gyfaddef dynladdiad ond fe wnaeth wadu iddo ei llofruddio.
Wedi achos tair wythnos o hyd yn Llys y Goron Caernarfon, daeth y rheithgor i'r casgliad fod Dean Mears yn euog ym mis Mai.
Yn dilyn marwolaeth Mrs Flynn, dywedodd ei theulu ei bod hi'n "fam, nain, hen nain, modryb a chwaer hyfryd".
Wrth roi teyrnged i'w mam, dywedodd ei phlant, Natasha, Catherine a Michael: "Rydym ni'n methu ei gwên a'i hwyneb hyfryd, ei chalon glên a'i geiriau.
"Roedd hi'n fam i unrhyw un oedd ei hangen, hi oedd y glud yn ein teulu.
"Roedd hi ar ei hapusaf pan oedd pawb gyda'i gilydd, ac roedd hi'n caru ei phlant i gyd a'i hwyrion yn fwy na dim byd arall.
"Doeddem ni ddim yn barod i golli un o'r bobl bwysicaf yn ein bywyd, ein Mam. Mae hi wedi mynd am byth."
'Colled drasig'
Dywedodd Deanne Mcginty o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Fe ymosododd Dean Mears yn greulon ar Catherine Flynn yn ei chartref ei hun, lle y dylai fod wedi bod yn ddiogel.
"Fe wnaeth wedyn geisio cuddio'r gwir drwy gael gwared o dystiolaeth.
"Fe wnaeth y rheithgor wrthod ei ymgais i hawlio cyfrifoldeb lleiedig ar ôl clywed yr holl dystiolaeth a gafodd ei chyflwyno gan Wasanaeth Erlyn y Goron.
"Fe wnaeth gweithredoedd Mears arwain at golled drasig, ac mae'r golled honno yn cael ei theimlo i'r byw gan deulu a ffrindiau Catherine.
"Mae ein meddyliau yn parhau gyda nhw."
Ychwaengodd yr Uwcharolygydd Lee Boycott: “Symudodd Cathy i’r Rhyl 25 mlynedd yn ôl gyda’i thri o blant a ofalodd amdani’n ddiweddarach yn ei bywyd wrth iddi fynd yn hŷn.
"Ar noson yr ymosodiad, roedd Cathy yn gorwedd yn ddiniwed yn ei gwely pan wnaeth Mears, a oedd yn ddiarth iddi, dorri drwy ffenest ei hystafell fyw.
"Fe redodd i fyny'r grisiau ac ymosod arni yn ei hystafell wely lle y dylai hi fod wedi bod yn ddiogel.
"Bu farw Cathy 24 awr yn ddiweddarach gyda'i theulu o'i chwmpas."