Newyddion S4C

Buddugoliaeth hanesyddol i'r Ariannin yn erbyn y Llewod

Yr Ariannin a'r Llewod

Fe sicrhaodd yr Ariannin fuddugoliaeth hanesyddol dros y Llewod mewn gêm gystadleuol yn Stadiwm Aviva Dulyn.

Dyma’r tro cyntaf i’r Ariannin guro’r Llewod mewn wyth gornest, ar ôl i gic Johnny Wilkinson sicrhau gêm gyfartal ar ddiwedd eu gêm ddiwethaf yng Nghaerdydd yn 2005. 

Roedd un o'r ddau chwaraewr o Gymru, Jac Morgan, wedi ei gynnwys yn nhîm Andy Farrell i ddechrau yn erbyn Yr Ariannin, gyda Tomos Williams ar y fainc. 

Roedd y Pumas wedi dewis tîm llawn profiad, gyda'r bachwr Julian Montoya yn gapten.

Fe wnaeth cic gosb Tomas Albornoz olygu mai'r Ariannin wnaeth sicrhau'r mantais ddechreuol yn Nulyn. 

Ond ychydig funudau yn ddiweddarach, fe gafodd y Llewod gic gosb, gyda Fin Smith yn pwyntio at y pyst.

Sgoriodd Smith ei dri phwynt cyntaf dros y Llewod, gan olygu ei bod hi bellach yn gêm gyfartal. 

Ond ni arhosodd y sgôr fel hyn yn rhy hir, gyda'r Pumas yn ennill eu tafliad cyntaf a'n dechrau ar yr ymosod. 

Sgoriodd Ignacio Mendy i olygu ei bod hi bellach yn 3-8 i'r Ariannin, ond methodd Albornoz â sicrhau'r trosiad. 

Ond roedd y Llewod yn parhau i fygwth a rhoi pwysau ar eu gwrthwynebwyr, gyda Bundee Aki yn sgorio o flaen torf o'i gyd-Wyddelod.

Llwyddodd Smith i drosi gan olygu fod y Llewod ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm, o 10-8. 

Ond fe enillodd Yr Ariannin gic gosb gyda chic Albornoz yn eu rhoi yn ôl ar y blaen o un pwynt, 10-11. 

Ond er ei bod yn gêm agos tan ddiwedd yr hanner, fe newidiodd pethau wrth i'r hanner dynnu at ei derfyn.

Fe gafodd Yr Ariannin gic gosb gyda Albornoz yn sgorio, a munudau yn ddiweddarach, fe sgoriodd Albornoz eto ar ôl i’r Ariannin ddwyn y bel yn ei 22 ei hunain cyn trosi dros ei wlad hefyd. 

Roedd hynny yn golygu fod Yr Ariannin ar y blaen o 21-10 ar ddiwedd yr hanner cyntaf. 

Yr ail hanner

Fe ddechreuodd yr Ariannin yr ail hanner lle adawon nhw yr hanner cyntaf, yn taflu y bêl o amgylch y cae yn ddigon rhydd.

Ond roedd newyddion gwell i’r Llewod wrth iddyn nhw dderbyn cais gosb ar ôl i’r Ariannin dynnu sgarmes symudol i lawr, ac fe welodd Mayco Vivas gerdyn melyn.

Roedd y Llewod nôl o fewn sgôr, 17-21. Gadawodd un Cymro, Jac Morgan y cae a daeth yr ail Gymro yn y garfan, Tomos Williams, ymlaen.

Fe wnaeth Tomos Williams gyfraniad allweddol o fewn munudau wrth iddo roi pas wych i Tadhg Beirne i roi y Llewod 24-21 ar y blaen wedi i Fin Smith ychwanegu’r trosiad.

Ond fe darodd yr Ariannin yn ôl gyda chais y noson o ben arall y cae, pan diriodd Santiago Cordero o gic gan Matias Moroni i roi ei wlad yn ôl ar y blaen gyda chwarter y gêm yn weddill.

Wrth i'r cloc agosau at y 90 munud y Llewod a gafodd y gorau o'r chwarae ond doedd y cydlyniad ddim yno, eto, i sicrhau pedwerydd cais y gêm a'r Ariannin oedd yn dathlu ar y chwiban olaf.

Fe fydd y Llewod yn chwarae eu gêm nesaf yn erbyn Western Force yn Awstralia ddydd Sadwrn nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.