Newyddion S4C

'Nodyn bygythiol' wedi ei ddarganfod ar awyren o Gaerdydd i Lanzarote

TUI_(Jetairfly)_Boeing_737-8_MAX.jpg

Roedd yn rhaid i awyren o Gaerdydd i Lanzarote gael ei gwagio ddydd Iau ar ôl darganfod nodyn bygythiol.

Dywedodd llefarydd ar ran Maes Awyr Caerdydd wrth Newyddion S4C eu bod nhw'n ymwybodol o'r digwyddiad.

Yn ôl adroddiadau gan wasanaeth newyddion y Canarian Weekly, fe gafodd nodyn a gafodd ei ysgrifennu gyda llaw yn honni fod bom ar yr awyren ei roi i un o'r peilotiaid.

Roedd yr awyren wedi dechrau o Gaerdydd am 07:00 gan lanio yn Lanzarote ychydig cyn 11:00. 

Mewn datganiad, fe ddywedodd Llu Awyr Portiwgal eu bod wedi gofyn i ddwy awyren jet F-16M ehedu "wedi i awyren ddatgan posibilrwydd o fygythiad bom arni tra'n croesi gofod awyren cenedlaethol".

"Gyda'r ddwy awyren F-16M yn monitro diogelwch a rheolaeth dda gofod awyr cenedlaethol, fe wnaeth criw yr awyren benderfynu i barhau gyda'r hediad i'r maes awyr yr oedd i fod i'w gyrraedd, y tu allan i diriogaeth cenedlaethol. 

"Pan y gwnaethant adael y Rhanbarth Gwybodaeth Hedfan Genedlaethol, fe wnaeth y cyfrifoldeb symud i Sbaen."

Ar ôl cyrraedd, bu'n rhaid i deithwyr fynd oddi ar yr awyren ar frys am resymau diogelwch. 

Wedi i dimau arbenigol archwilio'r awyren, ni chafodd unrhyw ddyfais ffrwydrol ei darganfod, a daeth arbenigwyr i'r casgliad fod y bygythiad yn un ffug. 

Yn ôl papur newydd La Voz de Lanzarote, fe roddodd yr awyren wybod fod bom posib arni, ond fe gadarnhaodd yn ddiweddarach fod modd canslo'r rhybudd ar ôl dod i'r casgliad nad oedd y bygythiad yn un credadwy. 

Dywedodd llefarydd ar ran Maes Awyr Caerdydd wrth Newyddion S4C: "Rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad yn ymwneud ag awyren TOM6422 o Gaerdydd i Lanzarote ar 19/06/2025. 

"Diogelwch ein teithwyr ydi ein blaenoriaeth fwyaf. Ni chafodd unrhyw bryderon neu weithgaredd amheus eu codi cyn i'r awyren adael Caerdydd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.