Tro pedol wrth i sioe pen-blwydd Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig gael ei chynnal wedi’r cyfan
Mae Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig wedi cyhoeddi y bydd ei sioe i nodi pen-blwydd y gymdeithas yn 125 oed yn cael ei chynnal wedi’r cyfan.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ar 8 a 9 Awst, ar yr amod bod digon o geisiadau yn dod i law.
Cafodd y sioe ei chanslo ar 30 Mehefin ar ôl i’r gymdeithas dderbyn llai na 100 o geisiadau, wythnos cyn y dyddiad cau gwreiddiol.
Dywedodd y gymdeithas ar y pryd fod y penderfyniad “anodd ond cyfrifol” wedi’i wneud ar ôl adolygu nifer y ceisiadau.
Er ei bod yn cydnabod effaith achosion o ffliw ceffylau a chostau tanwydd cynyddol ar sioeau, dywedodd fod lefel y gefnogaeth i’r digwyddiad pen-blwydd wedi bod yn “siomedig”.
Dywedodd hefyd na fyddai hyd yn oed dyblu nifer y ceisiadau cyn y dyddiad cau yn ddigon i dalu costau sylweddol cynnal y sioe.
Roedd nifer y ceisiadau yn cynrychioli llai na 0.02% o aelodaeth y gymdeithas, meddai, ac felly byddai gwario arian yr aelodau ar y digwyddiad er budd cyn lleied o bobl yn ddefnydd gwael o’r arian.
Ond mewn datganiad ddydd Iau, cyhoeddodd y gymdeithas fod y penderfyniad wedi’i wrthdroi.
“Yn dilyn trafodaethau sylweddol a chefnogaeth gref gan ein cymuned, rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Sioe Pen-blwydd y 125 Cymdeithas Merlod a Chobiau Cymru yn cael ei chynnal,” meddai.
Bydd angen i o leiaf 350 o geisiadau ddod i law ar gyfer y dosbarthiadau mewn llaw er mwyn i’r digwyddiad gael ei gynnal.
“Er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn ymarferol, mae angen o leiaf 350 o geisiadau mewn llaw arnom.
“Mae eich cyfranogiad yn hanfodol er mwyn helpu i wireddu’r dathliad pwysig hwn.”
Bydd amserlen ddiwygiedig a manylion ynglŷn â sut i gystadlu yn cael eu cyhoeddi’n fuan.
Y dyddiad cau newydd ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 24 Gorffennaf.
Ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu derbyn, heblaw am geisiadau ar y diwrnod ar gyfer dosbarthiadau Horse of the Year Show.
Dywedodd un aelod o’r gymdeithas ei fod yn “newyddion cadarnhaol” a bod y gymdeithas wedi cydnabod ei chamgymeriadau a gwrando ar yr aelodau.
Anogodd bobl i gefnogi’r sioe er mwyn sicrhau ei llwyddiant ac i roi’r dathliad y mae’r brîd a’r gymdeithas yn ei haeddu ar ei phen-blwydd yn 125 oed.