Yr Alban: Aros tan 2023 am refferendwm ddim yn 'niweidiol i'r ochr annibyniaeth'

Newyddion S4C 13/09/2021

Yr Alban: Aros tan 2023 am refferendwm ddim yn 'niweidiol i'r ochr annibyniaeth'

Yn ôl yr athro Richard Wyn Jones mae gorfod aros hyd at ddwy flynedd am ail-refferendwm annibyniaeth yr Alban oherwydd y pandemig o fudd i’r SNP.

Yng nghynhadledd y blaid heddiw galwodd Nicola Sturgeon ar Lywodraeth Boris Johnson i gytuno i refferendwm arall erbyn diwedd 2023, os yw Covid-19 yn caniatáu.

“Dwi'm yn gweld bod disgwyl am flwyddyn neu ddwy yn niweidiol i'r ochr annibyniaeth, i'r gwrthwyneb,” meddai Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

“Llywodraeth Prydain sydd efo'r problem.

“Be ma' nhw'n gynnig i'r Alban mewn cyfnod lle ma' nhw'n tanseilio datganoli?

“Nid yn unig bo nhw ddim isio rhoid mwy o annibyniaeth i'r Alban, ma' 'nhw'n tanseilio hynny o ddatganoli sydd ganddyn nhw.”

Pleidleisiodd 55.3% o bobl yn erbyn annibyniaeth i’r Alban, a 44.7% o blaid, mewn refferendwm yn 2014.

Yn ôl un arolwg barn dros y penwythnos, mae 62% o Albanwyr yn cefnogi refferendwm arall cyn 2026.

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C dywedodd yr athro nad oedd modd dweud sut byddai Llywodraeth San Steffan yn ymateb i’r alwad.

“Ar yr wyneb mae Llywodraeth Johnson yn dweud na, ma' nhw jyst yn dweud na di'r amser ddim yn iawn a 'da ni ddim yn mynd i ddeutha chi be di'r amodau ar gyfer penderfynu bod yr amser yn iawn.

“Ma' 'na bobl wedyn yn dweud pethau carlamus ynglŷn â 'da chi'n gorfod disgwyl ugain mlynedd.

“Tu ôl y llenni ma' 'na bethau eraill yn mynd ymlaen - 'da ni'n gwybod fod Michael Gove wedi bod yn trafod efo Gordon Brown yn y Blaid Lafur – ma' 'na rywbeth yn mynd ymlaen yn fanna.

“Dwi ddim yn meddwl yn y pendraw bo Llywodraeth Prydain yn gallu deud na byth.

“Ond beth yn union ydy'r amodau ag ydy nhw'n trio newid sail y refferendwm?

“Ydy nhw'n am drio deud gall unrhyw un o dras Albanaidd bleidleisio yn hytrach nag unrhyw un sy'n byw yn yr Alban?

“Ydy nhw'n mynd i drio neud ryw bethau felna i newid natur y refferendwm?

“'Da ni jyst ddim yn gwybod be sy'n mynd ymlaen yn y cefndir.”

Erbyn yr haf nesaf, bydd Nicola Sturgeon wedi trechu record holl Brif Weinidogion eraill yn yr Alban o ran ei hamser wrth y llyw.

Ond mae tipyn o ffordd i fynd eto cyn sicrhau’r hyn na lwyddodd ei rhagflaenydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.