Dyn yn pledio’n euog i feddu ar luniau ‘ffiaidd’ o blant ac anifeiliaid
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi ei garcharu ar ôl pledio'n euog i feddu ar ddelweddau anweddus o blant ac anifeiliaid, a'u dosbarthu.
Roedd Chris Williams, 40 oed, o Gwmafon, wedi uwchlwytho dwy ddelwedd anweddus Categori A o blant, un ohonynt yn cynnwys anifeiliaid, i'r rhyngrwyd ym mis Tachwedd 2024.
Cafodd ei ddal oherwydd bod y cyfrif a ddefnyddiodd i’w huwchlwytho yn gysylltiedig â'i gyfeiriad e-bost.
Fe wnaeth ymchwiliad ganfod bod gan Mr Williams 62 o ddelweddau o bornograffi eithafol yn cynnwys plant ac anifeiliaid yn ei feddiant.
Plediodd yn euog i feddu ar ddelweddau pornograffig eithafol, tri chyhuddiad o dynnu llun anweddus o blentyn, un cyhuddiad o dynnu llun anweddus o blentyn ac un cyhuddiad o ddosbarthu llun anweddus o blentyn.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i 28 mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Elena Lewis bod y delweddau yn “ffiaidd, yn llygredig ac yn gwbl annerbyniol”.
“Mae’r ffaith iddo gael pleser rhywiol o’r delweddau hyn yn warthus ac yn profi ei fod yn berygl i blant.
“Mae’r achos hwn wedi cael cryn effaith ar y gymuned leol. Rydyn ni’n gobeithio eu bod nhw a’u teuluoedd yn teimlo rhywfaint o sicrwydd nawr bod Chris Williams wedi ei gaethiwo.”
