Cyhuddo dau ddyn o ddwyn blychau post hanesyddol yng Nghymru a Lloegr
Mae dau berson wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â dwyn blychau post hanesyddol o Gymru a Lloegr.
Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â dwyn tri blwch post y Post Brenhinol o gyfnod y Brenin George V o Bowys yng Nghymru ac ardal Malpas yn Swydd Gaer dros y ffin.
Fe fydd Carl Newman, 33, a Georgia Bailey, 26, yn ymddangos yn y llys fis nesaf, meddai Heddlu Swydd Gaer.
Mae Newman, o Farnborough Road, Farnborough, a Bailey, o High Street, Camberley, wedi eu cyhuddo o dri chyhuddiad o ladrad drwy ganfod (theft by finding).
Cafodd y ddau ddiffynnydd fechnïaeth ac fe fyddan nhw’n ymddangos yn Llys Ynadon Caer ar 28 Awst.
Llun: Logo George V ar flwch post.
