Dyn 23 oed gafodd ei ddarganfod yn farw yn Y Fflint yn cael ei enwi'n lleol

Mae dyn a gafodd ei ddarganfod yn farw yn Y Fflint wedi cael ei enwi’n lleol fel Jamie Grimwood.
Roedd Mr Grimwood, 23 oed o Runcorn, ar goll ers dydd Llun 23 Awst, ar ôl cael ei weld diwethaf ger garej ATS ar Ffordd Caer.
Yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu, cafodd corff Mr Grimwood ei ddarganfod nos Sadwrn 13 Medi ar dir ger y safle aeth ar goll.
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Mr Grimwood ar dudalen cof amdano ar Facebook.
Mewn un deyrnged gofynnodd teulu Mr Grimwood am amser i alaru: "Rydyn ni fel teulu mor ddiolchgar am yr holl gymorth a chefnogaeth rydyn ni wedi'u cael gan bawb.
"Hoffem nawr gymryd peth amser fel teulu a gobeithio y gall pawb werthfawrogi hyn. Diolch i chi i gyd eto o waelod ein calonnau."
Mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad.