Priti Patel yn cael ei chyhuddo o dorri’r cod gweinidogol

Mae’r Blaid Lafur wedi cyhuddo Priti Patel o dorri’r cod gweinidogol yn dilyn adroddiadau ei bod wedi cyfarfod gyda rhoddwr Torïaidd a British Airways.
Adrodda Golwg360 fod yr Ysgrifennydd Cartref wedi trefnu cyfarfod mewn gwesty ar 11 Awst gyda Surinder Arora, rhoddwr Torïaidd a sylfaenydd yr Arora Group, a chyfarwyddwr materion corfforaethol BA, Lisa Tremble.
Mae lle i gredu fod Ms Patel wedi cwrdd gyda'r unigolion ar ei phen ei hun, yn groes i'r cod gweinidogol, sy'n nodi y dylai swyddog arall fod yn bresennol ar gyfer holl drafodaethau am waith y llywodraeth.
Bu’n rhaid i Priti Patel ymddiswyddo yn 2017 pan oedd hi’n Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, a hynny yn dilyn cyfarfodydd â swyddogion Israel nad oedd wedi cael eu hawdurdodi.
Yn ôl llefarydd ar ran Priti Patel, bydd manylion pob cyfarfod “yn cael eu cyhoeddi yn y ffordd arferol yn unol â’r cod gweinidogol”.
Darllenwch y stori'n llawn yma.