Rhedwr wedi disgyn oddi ar glogwyn yn Ynys Môn

Porth Dafarch, Ynys Môn
Mae rhedwr, sydd wedi disgyn 20 metr oddi ar glogwyn yn Ynys Môn, wedi cael ei chludo i'r ysbyty.
Yn ôl North Wales Live, cafodd hofrennydd o Ddulyn, bad achub RNLI â thimau gwylwyr y glannau o Gaergybi, Bae Cemaes a Moelfre eu galw i'r digwyddiad ym Mhorth Dafarch ar fore dydd Sadwrn.
Mae'r ddynes wedi cael ei chludo i ysbyty yn Stoke.
Darllenwch y stori'n llawn yma.