Cyfreithwyr Tywysog Andrew yn gwadu iddo dderbyn papurau cyfreithiol

Tywysog Andrew
Mae cyfreithwyr ar ran y Tywysog Andrew yn gwadu iddo dderbyn papurau cyfreithiol ar ôl i ddynes ei gyhuddo o’i cham-drin yn rhywiol.
Dywed Golwg360 fod Virginia Giuffre wedi lansio achos sifil yn erbyn y tywysog yn Efrog Newydd, ac mae angen i bapurau cyfreithiol gael eu cyflwyno cyn bod modd cynnal gwrandawiad.
Mae ei chyfreithwyr yn dweud bod papurau wedi’u rhoi i blismon y tu allan i gartre’r tywysog yn Windsor.
Bydd rhaid i farnwr yn yr Unol Daleithiau fynd ati i benderfynu a gafodd y papurau eu cyflwyno yn y modd cywir cyn i’r achos ddechrau.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Paul Kagame (drwy Flickr)