Iechyd: Y llywodraeth i fuddsoddi £145m yn ychwanegol eleni

Ward Ysbyty - Canser y Fron (PA)

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cyllid ychwanegol gwerth £145m yn cael ei fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Mae’r cyllid, sy’n rhan o Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27, yn cynnwys cyllid refeniw gwerth £100m i gefnogi nodau Llywodraeth Cymru o leihau amseroedd aros y GIG.

Bydd cyllid cyfalaf gwerth £25m yn cael ei fuddsoddi er mwyn sefydlu canolfannau llawfeddygol a diagnostig newydd, i ddarparu triniaeth gyfaint uchel i sicrhau y gellir gweld cleifion yn gyflymach. 

Mae Llafur Cymru wedi dweud fod rhestrau aros y GIG wedi gostwng yng Nghymru dros y 10 mis diwethaf oherwydd "buddsoddiad gan lywodraeth Lafur Cymru ddiwethaf".

Canolfannau diagnostig

Yn ystod y pedair blynedd nesaf, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sefydlu hyd at 10 canolfan lawfeddygol a diagnostig.

Bydd cyllid cyfalaf gwerth £20m hefyd yn cael ei wario ar waith cynnal a chadw hanfodol ar draws ystad y GIG.

Bydd Cyllideb Atodol gyntaf Llywodraeth Cymru yn cael ei chyhoeddi ar 23 Mehefin. 

Dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth: “Rydym yn benderfynol o sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd yn gweithio i gleifion a staff - ac rydym yn gweithredu nawr. Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn anfon arwydd clir bod mynd i’r afael â rhestrau aros yn flaenoriaeth frys i’r Llywodraeth newydd hon.

“Ond dydyn ni ddim am leihau amseroedd aros yn y tymor byr yn unig - ry’n ni am eu cadw nhw lawr, fel nad oes rhaid i gleifion aros mewn poen neu anghysur. 

"Drwy fuddsoddi mewn canolfannau llawfeddygol a diagnostig newydd, a fydd yn trawsnewid triniaethau arbenigol, ry’n ni’n rhoi’r seilwaith yn ei le fel bod ein gwasanaeth iechyd yn gallu trin mwy o gleifion rŵan ac yn y dyfodol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.