Cwpan y Byd 2027: Cymru i wynebu Albania yn rownd gyntaf y gemau ail-gyfle
Bydd Cymru yn wynebu Albania yn rownd gyntaf gemau ail-gyfle Cwpan y Byd 2027.
Cafodd yr enwau eu tynnu o'r het mewn seremoni ddydd Iau.
Roedd Cymru'n fuddugol ddwywaith yn erbyn Albania yn ystod yr ymgyrch ragbrofol, gan ennill 4-0 a 1-0.
Pe bai Cymru’n ennill, fe fyddan nhw’n wynebu Rwmania neu Norwy yn yr ail rownd, gyda’r enillwyr yn sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf.
Bydd Cwpan y Byd yn cael ei chynnal ym Mrasil yr haf nesaf, ac mae Cymru yn gobeithio cyrraedd y rowndiau terfynol am y tro cyntaf yn eu hanes.
Mae Denmarc, Ffrainc, yr Almaen, Sbaen a Brasil wedi cymhwyso'n barod.
Enillodd Cymru Grŵp B1 gyda buddugoliaeth 3-1 yn erbyn Y Weriniaeth Tsiec yn eu gêm olaf i sicrhau eu lle ar y brig.
Mae 32 o dimau yn y gemau ail-gyfle, ac maen nhw wedi eu rhannu yn ddau lwybr gwahanol, ac fe fydd dwy rownd yn y gemau ail-gyfle.
Er mwyn cyrraedd yr ail rownd o gemau ail-gyfle, bydd angen i Gymru ennill yn erbyn Albania dros ddau gymal.
Bydd y gemau yn cael eu chwarae rhwng 7 a 13 Hydref.
Mae'r wyth enillydd o'r rownd gyntaf yn mynd ymlaen i'r ail rownd, ac yn herio un o'r wyth enillydd o lwybr 1, sydd yn cynnwys timau o Gynghreiriau A ac C.
Bydd y gemau yn cael eu chwarae rhwng 26 Tachwedd a 5 Rhagfyr.
Allan o'r wyth tîm sy'n ennill yn yr ail rownd, bydd y saith uchaf ar restr detholion FIFA yn cymhwyso i Gwpan y Byd, tra bod yr wythfed tîm yn chwarae mewn gêm ail-gyfle gyda gwlad o gyfandir arall ar gyfer y safle olaf yn y gystadleuaeth.
Mae rheolwr Cymru, Rhian Wilkinson, eisoes wedi dweud bod gan ei charfan y gallu i gyrraedd Cwpan y Byd.
"Ar ein dydd, pam lai? Mae'n rhaid i fi feddwl felna. Pam arall fydden ni yn gwneud hyn?" meddai.
"Fel y gwelwch chi, mae ganddon ni chwaraewyr penigamp y byddai unrhyw wlad yn falch o eu cael ar y cae.
"Dŷn ni jest angen gweithio allan sut maen nhw'n chwarae gyda'i gilydd, sut maen nhw'n asio gyda'i gilydd a hefyd sut ydyn ni yn defnyddio ein chwaraewyr sydd yn gorffen symudiadau, y rhai sydd yn gallu dod ar y cae i ennill neu ddal ymlaen.
"Mae hynny yn bwysig, bod gyda ni garfan a dim jest 11 o chwaraewyr."