Rheithgor yn methu dod i ddyfarniad mewn achos treisio honedig yn ystod Eisteddfod 2023
Mae'r achos yn erbyn dyn oedd wedi ei gyhuddo o dreisio dynes mewn pabell yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan yn 2023 wedi dod i ben gyda'r rheithgor yn methu â dod i ddyfarniad.
Roedd Emlyn Jones, sy'n 27 oed ag yn dod o Gapel Curig yn Sir Conwy, yn wynebu pedwar cyhuddiad, sef treisio, tagu bwriadol, ymosod drwy dreiddio (‘assault by penetration’) ac un achos o ymosod yn rhywiol.
Roedd yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.
Cafodd aelodau'r rheithgor, sef chwe menyw a chwe dyn, eu hanfon i ystyried eu dyfarniad gan y Barnwr Nicola Jones am 15:05 ddydd Iau, cyn cael eu hanfon adref am y noson ychydig cyn 16:00.
Ar ôl ystyried am gyfanswm o dair awr a 57 munud dywedodd y barnwr wrth y rheithgor ychydig cyn 13:00 ddydd Gwener y byddai'n derbyn dyfarniad mwyafrifol.
Fe ddaeth neges yn ôl gan y rheithgor am 15:10 bnawn Gwener yn dweud nad oeddynt yn gallu dod i ddyfarniad.
Fe ofynnodd y barnwr iddyn nhw ystyried pe bai modd iddyn nhw ddod i ddyfarniad os byddant yn cael mwy o amser i wneud hynny.
Gadawodd y rheithgor i ystyried hynny, cyn dychwelyd i'r llys am 15.30.
Roeddynt wedi ystyried am gyfanswm o chwe awr a 30 munud.
Dywedodd y barnwr wrth y rheithgor fod yr achos wedi dirwyn i ben gan nad oedd modd dod i ddyfarniad, ac fe gafodd y rheithgor ei ryddhau.
Gofynnodd Siôn ap Mihangel ar ran yr erlyniad am saith diwrnod i ystyried os bydd erlyniad newydd yn cael ei gynnal.
Cafodd Mr Jones ei ryddhau ar fechnïaeth.