Cymeradwyo’r bilsen colli pwysau GLP-1 gyntaf yn y DU

Wegovy

Mae’r bilsen GLP-1 gyntaf yn y DU ar gyfer colli pwysau wedi cael ei chymeradwyo gan y rheoleiddiwr meddyginiaethau.

Bydd modd cymryd y dabled Wegovy (semaglutide) bob dydd ac mae ar gyfer oedolion gordew sydd â mynegai màs y corff (BMI) o 30 neu fwy.

Bydd pobl sydd dros bwysau ac sydd â chyflwr cysylltiedig, fel pwysedd gwaed uchel, hefyd yn gymwys i’w gymryd.

Y dos cychwynnol ar gyfer y dabled yw 1.5mg, gan godi wedyn i 4mg, 9mg a 25mg.

Mae angen i gleifion fod ar bob lefel dos am o leiaf mis cyn symud i fyny i’r un nesaf.

Dywedodd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) y gall pobl sy’n cael triniaeth breifat ar hyn o bryd gyda chwistrelliad Wegovy 2.4mg unwaith yr wythnos symud yn syth i dabledi 25mg unwaith y dydd.

Mae’r cyffur yn cael ei gynnig ar bresgripsiwn a bydd ar gael yn breifat o fewn wythnosau. Nid yw wedi cael ei asesu eto i’w gynnig ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Dywedodd Julian Beach, cyfarwyddwr gweithredol ansawdd a mynediad gofal iechyd yr MHRA: “Ar ôl bodloni safonau llym yr MHRA o ran diogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd, mae’r dabled semaglutide wedi cael ei chymeradwyo yn y DU ar gyfer colli pwysau a rheoli pwysau.”

Dylid cymryd tabled Wegovy, sy’n cael ei gwneud gan Novo Nordisk, yn gyfan ar stumog wag gyda llymaid o ddŵr ar ôl cyfnod o ymprydio o o leiaf wyth awr.

Ni ddylid bwyta nac yfed dim am o leiaf 30 munud wedyn, neu fe all hynny effeithio ar y ffordd mae’r corff yn amsugno’r cyffur, meddai’r gwneuthurwr.

Mae’r MHRA wedi cymeradwyo’r cyffur ar sail data o dreial lle cafodd oedolion 25mg y dydd yn ogystal â deiet ac ymarfer corff.

Ar ôl 64 wythnos, roedd oedolion oedd yn cymryd y bilsen wedi colli 17% o bwysau eu corff ar gyfartaledd os oedden nhw wedi aros ar y driniaeth, o’i gymharu â 3% ymhlith pobl oedd yn cymryd cyffur ffug.

Sgil-effeithiau mwyaf cyffredin y feddyginiaeth yw rhai sy’n effeithio ar y stumog a’r coluddion, fel cyfog, dolur rhydd, rhwymedd a chwydu.

Dywedodd Sebnem Avsar Tuna, rheolwr cyffredinol Novo Nordisk: “Mae hyn yn garreg filltir bwysig i ofal gordewdra yn y DU.

“Am y tro cyntaf, mae gan bobl sy’n byw gyda gordewdra fynediad at driniaeth GLP-1 ar ffurf pilsen ddyddiol, gan roi’r dewis a’r hyblygrwydd iddyn nhw wrth reoli eu pwysau yn y tymor hir.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.