Yr Ysgrifennydd Amddiffyn yn ymddiswyddo gan ddweud nad oes digon o gyllid
Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn John Healey wedi ymddiswyddo, gan gyhuddo Syr Keir Starmer o fethu â chyllido’r Cynllun Buddsoddi Amddiffyn (DIP) yn iawn.
Mewn llythyr at Syr Keir, dywedodd Mr Healey nad oedd y Prif Weinidog “wedi gallu, ac nad oedd y Trysorlys wedi bod yn fodlon, addo’r adnoddau sydd eu hangen ar y wlad i’w hamddiffyn ar adeg pan mae bygythiadau’n cynyddu”.
Mae’r DIP, y galwodd yr Adolygiad Amddiffyn Strategol amdano bron yn union flwyddyn yn ôl, wedi ei oedi ers peth amser oherwydd anghytuno ynghylch cyllid.
Dywedodd Mr Healey ei fod wedi derbyn pecyn ariannol ar gyfer y DIP brynhawn Llun a oedd “ymhell o fod yn ddigon”.
Dywedodd na fyddai’r gefnogaeth ychwanegol yn dod nes ôl 2030.
Dywedodd: “Ar ôl esbonio wrthych na fyddwn yn gallu derbyn pecyn ar gyfer y Dip nad yw’n rhoi’r adnoddau sydd eu hangen ar ein lluoedd arfog iddyn nhw, does gen i ddim dewis arall bellach ond cyflwyno fy ymddiswyddiad fel eich ysgrifennydd amddiffyn.”
