Newyddion S4C

Y byd yn cofio 9/11 ugain mlynedd yn ddiweddarach

11/09/2021
Robert J. Fisch

Mae cymunedau ac unigolion ar draws y byd yn nodi 20 mlynedd ers ymosodiadau 9/11 – dyddiad a siglodd y byd i’w seiliau.

Bu farw bron i 3,000 o bobl y diwrnod hwnnw yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol.

Roedd yn ddiwrnod a gafodd effaith sylweddol ar bolisi tramor Unol Daleithiau’r America a’i chynghreiriad am flynyddoedd i ddod.

I nodi'r achlysur, dywedodd Joe Biden, arlywydd yr UDA fod "undod yn un peth na allwn ei dorri."

'Digwyddiad erchyll yn dal yn fyw yn ein hatgofion'

Ychwanegodd mewn neges i'r genedl: "Rydym yn talu teyrnged i'r rhai hynny beryglodd a roddodd eu bywydau yn y munudau, oriau, misoedd a blynyddoedd wedi'r digwyddiad.

"Dim ots faint o amser sydd wedi mynd heibio, mae'r achlysur yma yn dod â phopeth poenus yn ôl fel petai rhywun wedi derbyn y newyddion ychydig eiliadau yn ôl."

Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru fod y "digwyddiad erchyll yn dal yn fyw yn ein hatgofion.

"Mae fy meddyliau gyda ffrindiau a theuluoedd pawb a gollodd eu bywydau yn ystod yr ymosodiadau wrth iddynt nodi'r garreg filltir drist yma."

Dywedodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, fod y terfysgwyr oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ar 9/11 wedi methu "ysgwyd ein ffydd mewn rhyddid a democratiaeth."

Am 8:46 ar fore’r unfed ar ddeg o Fedi 2001, fe darodd awyren oedd wedi ei herwgipio gan eithafwyr al-Qaeda, yn erbyn ochr tŵr gogleddol Canolfan Fasnach y Byd.

Ymdrech sylweddol gan y gwasanaethau brys

17 munud yn ddiweddarach, tarodd ail awyren oedd wedi ei herwgipio yn erbyn y tŵr deheuol.

Bu ymdrech sylweddol gan y gwasanaethau brys i ymateb i’r digwyddiad ac i geisio cynorthwyo’r sawl oedd y tu mewn i’r ddau dŵr - y tyrau uchaf yn Efrog Newydd.

Lai na dwy awr yn ddiweddarach, fe chwalodd y tyrau, un ar ôl y llall, gan adael cymylau o lwch a gweddillion yn eu hôl.

Bu farw 2,753 o bobl yn ymosodiadau Dinas Efrog Newydd.

Am 9:37 fe darodd trydedd awyren yn erbyn wal y Pentagon. 

Cafodd y 64 person ar yr awyren eu lladd, yn ogystal â 125 o bobl yn yr adeilad.

Byd yn parhau i deimlo effeithiau'r digwyddiad

Roedd tynged pedwaredd awyren yn wahanol i’r tair flaenorol.

Tarodd yr awyren gae yn Pennsylvania am 10:03, wedi i’r teithwyr rwystro’r herwgipwyr rhag cyrraedd eu targed.

Gan nad oedd un o’r 44 o’r teithwyr ar yr awyren wedi goroesi, mae’r manylion am beth yn union ddigwyddodd yn aneglur.

Mae ymchwilwyr o’r farn fod herwgipwyr y bedwaredd awyren yn ceisio targedu’r Tŷ Gwyn neu adeilad Capitol yr UDA.

Cafodd cyfanswm o 2,977 o bobl eu lladd ar 11 Medi 2001.

O ganlyniad i ymosodiadau 9/11, fe gyhoeddodd yr Arlywydd George W. Bush ryfeloedd newydd yn Affganistan, lle'r oedd al-Qaeda wedi eu lleoli, ac yn Iraq, a oedd heb unrhyw gyswllt â’r digwyddiadau.

Mae’r byd yn parhau i deimlo effeithiau digwyddiadau’r diwrnod dirdynnol hwnnw ugain mlynedd yn ddiweddarach.

Llun: Robert J. Fisch

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.