Ben Davies yn arwyddo cytundeb newydd gyda Tottenham Hotspur

Ben Davies

Mae amddiffynnwr Cymru, Ben Davies wedi arwyddo cytundeb newydd gyda Tottenham Hotspur.

Fe wnaeth y clwb gyhoeddi fore Mercher fod y Cymro wedi arwyddo cytundeb am dymor arall gyda'r clwb yn Llundain.

Mae Davies wedi chwarae 363 o gemau dros y clwb ac roedd yn rhan o'r garfan a enillodd Cynghrair Europa y llynedd.

Ar ôl arwyddo'r cytundeb newydd, dywedodd Davies y byddai'n "rhoi popeth" i'r clwb.

"Mae Tottenham Hotspur wir yn teimlo fel cartref," meddai.

"Mae'r clwb wedi bod yn rhan enfawr o fy nhaith yn y byd pêl-droed a dwi'n ddiolchgar iawn iddynt am bob dim maen nhw wedi ei roi i fi yn ystod fy ngyrfa hyd yma.

"Wrth gwrs, mae wedi bod yn anodd dros y misoedd diwethaf, yn methu â helpu'r tîm ar y cae yn ystod cyfnodau anodd oherwydd anaf.

"Felly dwi wedi bod yn ceisio rhoi cymorth oddi ar y cae cymaint ag y gallwn i, bod yn llais yn yr ystafell newid ac yn cyfrannu mewn unrhyw ffordd yr oeddwn i'n gallu.

"Mae gen i feddwl mawr am y clwb a byddwn yn rhoi popeth iddo."

Fe ymunodd Davies â Spurs o Abertawe yn 2014, ac erbyn hyn mae'n un o 29 chwaraewr yn unig i chwarae mwy na 350 o gemau i'r clwb.

Yn 33 oed, mae wedi bod yn rhan ganolog o garfan Spurs ar hyd y blynyddoedd, gyda sawl rheolwr gwahanol yn ei ddewis i fod yn rhan o'r amddiffyn.

Enillodd ei 100fed cap dros Gymru ym mis Hydref y llynedd, ac mae wedi chwarae dros ei wlad yn EURO 2016, EURO 2020 a Chwpan y Byd 2022.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.