Cyfyngu ar ymweliadau ag ysbytai’r gogledd
Mae bwrdd iechyd yn y gogledd wedi cadarnhau eu bod yn tynhau’r rheolau ar gyfer mynediad i’w hysbytai.
Bydd mynediad i Ysbyty Gwynedd, Bangor; Ysbyty Eryri, Caernarfon; Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan ac Ysbyty Llandudno ond yn cael ei ganiatáu am resymau “cwbl angenrheidiol” am y tro.
Dywed Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod y rheolau llymach yn weithredol ar unwaith, a hynny wrth iddyn nhw ymateb i “nifer gynyddol” o gleifion sydd wedi profi’n bositif am Covid-19.
Fe fydd yn bosib mynychu apwyntiadau ar gyfer cleifion allanol neu os oes angen triniaeth frys.
Ni fydd y newid yn effeithio ar y canllawiau ymweld sydd eisoes yn weithredol ar gyfer gwasanaethau a wardiau mamolaeth, pediatreg a newydd-enedigol yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd.
Daw’r cyhoeddiad ar ôl i fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg gadarnhau eu bod yn tynhau’r rheolau ymweld ar gyfer eu hysbytai.
Dywedodd Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “O ganlyniad i’r nifer gynyddol o gleifion positif, yn ein hysbytai ac yn ein cymunedau, rydym wedi penderfynu i gyfyngu ymhellach ar fynediad i’n hysbytai.
"Bydd hyn yn dod i rym ar unwaith."