Cyhuddo dyn ifanc ar ôl iddo fynd ar ben to ysbyty yn y gogledd
Mae dyn 26 oed wedi cael ei arestio a'i gyhuddo ar ôl iddo fynd ar ben to ysbyty yn y gogledd.
Cafodd yr heddlu a'r gwasanaeth tân eu galw i ymateb i'r digwyddiad yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ddydd Sadwrn.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu'r Gogledd: "Cafodd ei gyhuddo o achosi, heb esgus rhesymol, niwsans neu aflonyddwch i aelod o staff y Gwasanaeth Iechyd a oedd yn gweithio yno neu a oedd yno mewn cysylltiad â gwaith.
"Ac fe wrthododd heb esgus rhesymol adael yr adeilad pan ofynnwyd iddo wneud hynny gan gwnstabl."
