Aberystwyth: Lansio gweithgareddau mewn tafarn i gefnogi dysgwyr Cymraeg
Bydd gweithgaredd newydd yn cael ei lansio yn un o dafarndai enwocaf tref Aberystwyth i gefnogi dysgwyr Cymraeg.
Bydd ‘Sesiwn Siarad' yn cychwyn nos Fawrth ac yn agored i ddysgwyr Cymraeg o bob lefel yn ogystal â siaradwyr rhugl fynychu yn nhafarn Yr Hen Lew Du ar Heol-y-Bont yn y dref.
Bwriad y sesiwn, sy'n cael ei threfnu gan Cered: Menter Iaith Ceredigion, yw i annog dysgwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith yn y gymuned, cymdeithasu a chael hwyl yn y Gymraeg.
Dywed Cyngor Sir Ceredigion fod y sesiwn yn ymateb i'r prinder o gyfleoedd i ddysgwyr Cymraeg i ymarfer gyda’r hwyr.
"Tra fod nifer o foreau coffi yn ystod yr wythnos i ddysgwyr yn ardal Aberystwyth gall fynychu rhain fod yn anodd neu ynamhosib i’r rheiny sydd yn gweithio," meddai'r cyngor.
Dywedodd Elin Mai Williams, Swyddog Datblygu Cered a threfnydd y Sesiwn: "Mae Cered yn awyddus i sicrhau cyfleoedd hygyrch i ddysgwyr ledled y sir ac er mwyn gwneud hynny mae trefnu gweithgareddau gyda’r hwyr fel yr un yma yn bwysig hefyd.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae cefnogi siaradwyr newydd i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus ymhob man yny Sir yn waith pwysig a hynod bleserus. Mae mentrau fel Sesiwn Siarad Yr Hen Lew Du yn ffordd wych o ddod â phobl ynghyd mewn awyrgylch gyfeillgar, a rwy’n gobeithio y bydd yn ysgogi mentrau tebyg ar hyd Ceredigion.”
Yn dilyn y sesiwn gyntaf, fe fydd y weithgaredd yn cael ei chynnal yn fisol ar nos Fawrth gyntaf pob mis.