CPD Caernarfon yn lansio apêl i adeiladu eisteddle er cof am un o arwyr y clwb
Mae apêl wedi ei lansio ar gyfer adeiladu eisteddle 600 sedd newydd yng Nghlwb Pêl-droed Caernarfon er cof am y cyn-chwaraewr Wyn Davies.
Bu farw Mr Davies, oedd yn enedigol o Gaernarfon, yn 83 oed y llynedd.
Roedd wedi chwarae dros glybiau Manchester City, Bolton Wonderers, Manchester United a Newcastle United yn ystod ei yrfa ddisglair.
Fe wnaeth dros 500 o ymddangosiadau yn y Gynghrair Bêl-droed, gan ennill 34 o gapiau dros Gymru.
Mae'r ymgyrch yn cael ei chefnogi gan yr Arglwydd Dafydd Wigley, sydd yn gefnogwr oes o'r clwb, ac yn cofio'n dda am ddyddiau Wyn Davies ar y cae.
Wrth lansio'r apêl ynghyd â Chadeirydd y clwb, Paul Evans, dywedodd Mr Wigley ei fod yn briodol y byddai’r eisteddle newydd yn cael ei henwi er cof am y cyn-chwaraewr enwog.
"Mae gan Glwb Pêl-droed Tref Caernarfon le arbennig yng nghalonnau y gymuned yma, ac yn fy un i yn bersonol," meddai.
"Byddai'r eisteddle newydd yn deyrnged barhaol i waddol Wyn ac yn atgof i chwaraewyr ifanc o’r hyn y mae modd ei gyflawni gyda thalent, penderfyniad a chariad dwfn at y gêm.
"Byddai'r eisteddle newydd hefyd nid yn unig yn dathlu ein gorffennol, ond yn sicrhau ein dyfodol. Mae ein clwb ar daith gyffrous, ac byddai'r buddsoddiad hwn yn sicrhau fod mwy o gefnogwyr yn gallu bod yn rhan o'r daith yma."
Mae'r clwb yn ceisio codi £50,000 i helpu gyda chostau adeiladu'r eisteddle, a fyddai'n cynyddu capasiti a'n gwella cyfleusterau ar gyfer cefnogwyr yn yr Oval, gan eu galluogi hefyd i chwarae yn Ewrop.
Mewn datganiad, fe ddywedodd teulu Wyn Davies: "Byddai cael yr eisteddle newydd yma wedi ei enwi ar ôl Wyn yn anrhydedd fawr ac yn deyrnged arbennig iddo. "
Ychwanegodd Cadeirydd y clwb Paul Evans: "Rydym yn teimlo fod Wyn a'i deulu yn haeddu cydnabyddiaeth am bopeth a gyflawnodd a'r sylw a roddodd i’n tref.
"Mae'n ysbrydoliaeth i chwaraewyr ifanc ac rydym ni eisiau ei enw a'i waddol i barhau drwy Eisteddle Wyn Davies."