Difrodi cadair olwyn ar gyfer traeth yn Sir Benfro yn arwain at apêl am gymorth

cadair olwyn

Mae apêl codi arian sy’n gobeithio codi £15,000 wedi cael ei lansio ar ôl i gadair olwyn arbennig ar gyfer ei defnyddio ar draeth gael ei fandaleiddio yn Sir Benfro.

Cafodd y difrod ei achosi i'r gadair olwyn yn Llanusyllt (Saundersfoot), gan sbarduno cannoedd o negeseuon o ddicter, caredigrwydd a chefnogaeth gan y gymuned leol meddai trefnwyr yr apêl.

Cafodd dau deiar arbenigol a braich eu tynnu oddi ar y gadair ddydd Mawrth 26 Mai, gan achosi gwerth £600 o ddifrod. 

Mae’r gadair sydd wedi’i difrodi yn rhan o brosiect ehangach Symudedd Awyr Agored Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sy’n helpu pobl sydd â heriau symudedd i gael mynediad at draethau, llwybrau arfordirol, a mannau awyr agored yn y Parc Cenedlaethol.

Ers ei lansio yn 2007, mae’r cynllun cadeiriau olwyn y traeth yn dibynnu ar rwydwaith o fusnesau, caffis, a chanolfannau gweithgareddau lleol, i gynnal yr offer ledled Sir Benfro. 

Nod yr apêl yw troi’r difrod yn Llanusyllt yn rhywbeth cadarnhaol i’r prosiect cyfan medd y trefnwyr. 

Er bod angen tua £600 i drwsio’r gadair sydd wedi’i fandaleiddio, byddai cyrraedd y targed ehangach o £15,000 yn helpu i dalu am offer hanfodol newydd, creu storfeydd diogel gwell a rhoi rhagor o gyfleoedd i bobl o bob oed a gallu i fwynhau arfordir Sir Benfro.

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Yr hyn sydd wedi dod i’r amlwg dros y dyddiau diwethaf yw cymaint y mae pobl yn ei feddwl o’r gwasanaeth hwn. 

"Mae pobl yn ddig am yr hyn a ddigwyddodd yn Llanusyllt, ond mae’r dicter hwnnw wedi arwain at garedigrwydd, ac mae nifer o bobl wedi gofyn sut gallan nhw helpu.

“Nid dyma’r digwyddiad rydym ni am i bobl ei gofio. Rydym ni am i bobl gofio am y gymuned a ddaeth at ei gilydd er mwyn helpu i roi mynediad gwell at yr arfordir i fwy o bobl - a bydd pob rhodd yn ein helpu i gymryd y cam nesaf wrth fynd ati i wneud hynny.”

Mae cadair olwyn y traeth dros dro ar gael yn Llanusyllt tra bod trefniadau’n cael eu gwneud i drwsio’r gadair sydd wedi’i difrodi, gan helpu i sicrhau bod y gwasanaeth yn dal i redeg i’r bobl sydd ei angen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.