Oedolion ifanc yn bwyta prydau parod a thecawê 'yn fwy nag unrhyw un arall'

chips

Mae arolwg newydd yn awgrymu fod oedolion ifanc yn bwyta bwyd tecawê, prydau parod a bwydydd sydd wedi eu paratoi mewn caffis a bwytai yn fwy nag unrhyw grŵp oedran arall.

Mae'r arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu fod 26% o oedolion ifanc (16-29 oed) wedi bwyta bwyd tecawê ar o leiaf ddau ddiwrnod yn ystod yr wythnos ddiwethaf, o gymharu â 18% o bobl 30 i 49 oed, 8% o bobl 50 i 69 oed, a 2% o'r rhai 70 oed a hŷn. 

Yn ôl yr arolwg hefyd, fe wnaeth mwy na hanner o'r bobl gafodd eu holi ddweud eu bod yn bwyta cinio allan yn achlysurol, ac o'r rhain, roedd 60% yn prynu prydau parod.

Ymysg yr oedolion ifanc sy'n bwyta allan yn gyson, roedd 77% yn prynu prydau wedi eu paratoi, sef y ganran uchaf o unrhyw grŵp oedran i wneud hynny.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd "sicrhau bod opsiynau bwyd iach ar gael i bawb sydd angen bwyta wrth fynd."

Yn ôl yr arolwg, fe ddywedodd bron i chwarter o bobl a gafodd eu holi eu bod yn gweini pryd mawr iddyn nhw'u hunain tra bod 53% yn dweud nad ydyn nhw'n gadael bwyd ar eu plât yn aml, hyd yn oed os ydyn nhw'n teimlo'n llawn. 

Gordew

Dywedodd Dr Ilona Johnson, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae bod dros bwysau neu’n ordew yn effeithio ar dros 60% o oedolion yng Nghymru ac mae pobl fwyaf tebygol o ennill pwysau pan fyddant yn oedolion ifanc. 

"Mae'r hyn rydyn ni'n ei fwyta a faint rydyn ni'n ei fwyta yn effeithio ar ein pwysau. Mae'r gwaith hwn wedi canfod mai oedolion ifanc a'r rhai sy'n byw mewn cymunedau mwy difreintiedig sy'n wynebu'r heriau mwyaf o ran gwneud dewisiadau bwyd iachach a bod yr amgylcheddau bwyd o'u cwmpas yn gwneud bod yn iach yn anoddach, yn hytrach nag yn haws."

Ychwanegodd Dr Catherine Sharp, Prif Ymchwilydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae’r ymchwil hon yn darparu tystiolaeth gadarn‑ sy’n benodol i Gymru ar sut mae amgylcheddau bwyd a'u rhyngweithiadau â'n hymddygiadau yn dylanwadu ar batrymau bwyta ledled y genedl. Mae deall sut mae hyn yn gweithio yn y byd go iawn yn hanfodol ar gyfer datblygu polisi effeithiol.

"Mae’r ymchwil hon yn dangos ble mae ymddygiadau sy’n gysylltiedig â risg uwch o fod dros bwysau neu’n ordew fwyaf cyffredin ac yn darparu tystiolaeth bwysig i gefnogi ymyriadau wedi’u targedu i wella iechyd yng Nghymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.