Lluoedd Rwsia'n cynnal ymosodiadau sylweddol ar ddinasoedd yn Wcráin

Wcrain

Mae lluoedd arfog Rwsia wedi cynnal ymosodiadau sylweddol ar ddinasoedd ar hyd a lled Wcráin dros nos, gan ladd o leiaf 10 o bobl ac anafu degau.

Roedd arlywydd Wcráin, ‌Volodymyr Zelensky, wedi rhybuddio pobl ei wlad ddydd Llun y gallai Rwsia fod yn paratoi am ymosodiadau.

Wrth annerch ei gydwladwyr mewn neges fideo nosweithiol, dywedodd: "Mae rhybuddion cudd-wybodaeth am ymosodiadau Rwsiaidd yn parhau mewn grym. 

"Mae ymosodiad enfawr yn bosib; maen nhw wedi paratoi un."

Galwodd yr arlywydd ar bobl i fod yn wyliadwrus a gwrando am rybuddion cyrchoedd awyr, a galwodd am osod sancsiynau pellach ar Rwsia. "Mae'n bwysig bod ein holl bartneriaid yn gwybod beth sy'n digwydd a bod Rwsia yn parhau i ddibynnu ar daflegrau a brwydro pellach, nid camau diplomyddol,"

A dyna'n union digwyddodd dros nos gyda'r difrod mwyaf wedi ei achosi yn ninasoedd Dnipro a Kharkiv, ac yn y brifddinas Kyiv.

Mae pobl y ddinas honno wedi bod yn llechu dan ddaear yn rhwydwaith Metro y ddinas er mwyn ceisio osgoi'r peryglon.

Yn gynnar fore dydd Mawrth, dywedodd maer y brifddinas, Vitali Klitschko, fod  51 o bobl wedi eu hanafu yn Kyiv yn dilyn yr ymosodiadau, gan gynnwys tri o blant.

Mae tŵr oedd yn gartref i bobl wedi dymchwel yn y ddinas hefyd, gydag ofnau bod degau o bobl yn sownd o dan weddillion yr adeilad.

Yn ninas Dnipro mae pump o bobl wedi marw a 25 wedi eu hanafu yn ôl llywodraethwr rhanbarthol yr ardal, Oleksandr Hanzha.

Roedd Rwsia wedi rhybuddio ers dyddiau y byddai ymosodiadau yn digwydd, a hynny er mwyn dial yn dilyn marwolaeth 21 o bobl mewn ymosodiad gan Wcráin ar neuadd breswyl yn rhanbarth Luhansk o Wcráin, sydd dan reolaeth Rwsia.

Llun: Reuters

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.