Archebu capiau croen arth i’r Gwarchodlu Cymreig yn ‘amhosib ei amddiffyn’

Capiau croen arth

Mae grŵp hawliau anifeiliaid wedi beirniadu Llywodraeth y DU am archebu capiau croen arth ar gyfer y Gwarchodlu Cymreig a rhai catrodau eraill.

Daeth i’r amlwg ar ôl cais rhyddid gwybodaeth gan People for the Ethical Treatment of Animals (Peta) bod 96 o’r capiau wedi eu harchebu yn 2025 o’i gymharu â 22 yn 2024.

Cafodd y capiau du eu cyflwyno ar ôl Brwydr Waterloo yn 1815 er mwyn gwneud i filwyr ymddangos yn dal ac yn fygythiol

Yn 2025 fe wnaethon nhw gostio £225,000.

Roedd y Blaid Lafur wedi ymrwymo yn 2018 i wahardd mewnforio ffwr i’r DU.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod yn “prynu’r nifer lleiaf posib o gapiau croen arth i gymryd lle’r rhai sydd wedi cael eu defnyddio’n helaeth dros flynyddoedd hir”.

Ffwr ffug

Mae Peta wedi galw ar y gweinidog amddiffyn, Luke Pollard, i ddweud wrth y Weinyddiaeth Amddiffyn i ddefnyddio ffwr ffug yn lle.

Dywedodd Kate Werner, uwch reolwr ymgyrchoedd Peta: “Mae arth yn gorfod marw i greu bob un o’r capiau addurno yma – sy’n ei gwneud hi’n amhosib amddiffyn eu defnyddio gan Lywodraeth sy’n honni mai hi yw ‘plaid lles anifeiliaid’.

“Gyda ffwr ffug modern o ansawdd uchel ar gael yn rhwydd, does dim esgus dros barhau i ddefnyddio ffwr arth.”

Mae’r capiau du yn cael eu gwisgo gan filwyr troed y Gwarchodlu Cymreig, Gwarchodlu’r Grenadwyr, Gwarchodlu Coldstream, y Gwarchodlu Albanaidd a’r Gwarchodlu Gwyddelig.

Yn ôl Peta, maen nhw wedi’u gwneud o groen arth o Ganada, lle mae helwyr yn saethu eirth â bwa croes pwerus – dull hela sy’n anghyfreithlon yn y DU.

“Mae llawer o eirth yn cael eu saethu sawl gwaith, ac mae rhai yn dianc cyn marw’n araf o golli gwaed, newyn neu syched,” meddai’r sefydliad.

“Mae helwyr yng Nghanada yn aml yn denu’r eirth gyda bwcedi o fwyd melys cyn eu saethu.

“Mae’r defnydd parhaus o ffwr arth ar gyfer y capiau yn creu marchnad ar gyfer y crwyn ac yn rhoi cymhelliant i helwyr ladd yr eirth.”

Llun gan Aaron Chown / PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.