Merch 13 oed wedi marw ar ôl mynd i drafferthion mewn afon yn Swydd Efrog
Mae merch 13 oed wedi marw ar ôl mynd i drafferthion mewn afon yng ngogledd Swydd Efrog.
Mae'r lleoliad yn le poblogaidd gyda thwristaid.
Roedd adroddiadau bod y ferch ar goll am 18:30 nos Sul ac fe gafodd ei darganfod yn Afon Wharfe ger Burnsall.
Dywedodd Heddlu Gogledd Efrog ei bod hi wedi marw er gwaethaf ymdrechion y cyhoedd a chael ei chludo i'r ysbyty.
Mae o leiaf 15 o bobl wedi marw ar ôl bod mewn cysylltiad â dŵr ers dechrau cyfnod o dywydd poeth iawn ym mis Mai.
Ddydd Mawrth diwethaf oedd y di, a nod poethaf ym mis Mai erioed yng Nghymru a Lloegr. Fe gododd y tymheredd i 35C yn Heathrow a Gerddi Kew yn Llundain, a 32.9C ym Mharc Bute, Caerdydd.
Fe wnaeth merch 15 oed o Swydd Gaer farw yn yr ysbyty ddydd Sadwrn ar ôl mynd i drafferthion yn y môr ger Glannau Merswy ar ddydd Llun Gŵyl y Banc.
Fe fuodd menyw yn ei 60au farw ddydd Sadwrn ar ôl iddi hi a dyn arall geisio "achub eu ci" yn Swydd Gaerhirion. Mae'r dyn, sydd hefyd yn ei 60au, yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Mae bachgen ifanc 19 oed hefyd wedi marw yn Swydd Nottingham ar ôl mynd mewn i lyn ac mae corff dyn wedi ei ddarganfod yn Y Broads yn Nwyrain Lloegr.
Bu farw dynes 72 oed ar Fai 24 ar draeth West Angle yn Sir Benfro.
Yn ne Swydd Efrog mae timau achub yn parhau i chwilio am fachgen sydd wedi mynd ar goll yn Afon Don.
Llun: Google maps

