'Adlewyrchu amrywiaeth': Cân i groesawu pobl i Eisteddfod yr Urdd 2027
'Adlewyrchu amrywiaeth': Cân i groesawu pobl i Eisteddfod yr Urdd 2027
Mae cân newydd a fydd yn croesawu pobl i Eisteddfod yr Urdd Bro’r Wenynen yng Nghasnewydd yn 2027 yn "adlewyrchu amrywiaeth" yr ardal, yn ôl un o'r artistiaid sydd wedi ei chyfansoddi.
Bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Nhŷ Tredegar ar gyrion y ddinas y flwyddyn nesaf, ac mae’r gân yn cymryd lle’r cywydd croeso traddodiadol.
Dywedodd y rapiwr Lloyd Lewis, sy'n enedigol o Gwmbrân, ei bod yn "fraint anhygoel" cael y cyfle i gydweithio â channoedd o blant a phobl ifanc Gwent i gyfansoddi'r gân ynghyd â'r artist Dom James.
"Fi’n dod o’r ardal, felly mae’n wbath dwi’n teimlo’n angerddol iawn amdano - oedd rhaid i ni neud," meddai wrth Newyddion S4C.
Mae 400 o bobl ifanc yr ardal wedi cymryd rhan yn y prosiect, o helpu ysgrifennu’r geiriau i fod yn rhan o’r fideo gerddoriaeth.
"Oedd e’n proses wych cael mynd o gwmpas ysgolion yn yr ardal yn neud gweithdai gyda’r plant," meddai Lloyd.
"Gofyn i nhw be’ sy’n bwysig i nhw am yr ardal a wedyn trio rhoi hwnna i gyd a cwmpasu popeth mewn i gân."
Yn ôl Lloyd, mae'r gân yn cynnwys cerddoriaeth rap sy'n "wahanol" i ganeuon croeso'r gorffennol.
"Mae’r cân yn steil gwahanol falle i’r caneuon traddodiadol sydd wedi cael eu cysylltu gyda’r Urdd," meddai.
"Ond o’n i isho neud wbath gwahanol - mae fi a Dom yn neud cerddoriaeth steil yna a dwi’n meddwl oedd e’n bwysig i fel bod yn authentic.
"A mae’r cân yn sôn am yr amrywiaeth sydd i gyd yn yr ardal a'r pobl gwahanol i gyd. Dwi’n teimlo mae’n gweithio bod steil y music yn gwahanol hefyd."
Ychwanegodd: "Mae'r Eisteddfod yn sbeshal iawn i fi a dwi'n edrych ymlaen."
'Cyffro gwirioneddol'
Er bod blwyddyn i fynd tan Eisteddfod yr Urdd 2027, mae "cyffro gwirioneddol eisoes yn dechrau adeiladu" ar draws y rhanbarth.
"Mae llawer iawn o waith paratoi eisoes ar y gweill, ac mae’n hynod bwysig i ni sicrhau ein bod yn cyrraedd pob cymuned ar draws y rhanbarth, gan roi cyfle i bawb deimlo’n rhan o’r daith tuag at y brifwyl," meddai Lloyd Lewis.
"Trwy gydweithio’n agos gydag ysgolion, partneriaid lleol a chymunedau ledled yr ardal, rydym am sicrhau y bydd yr ŵyl yn adlewyrchu amrywiaeth, egni a chreadigrwydd ardal Bro’r Wenynen.
"Bydd yn gyfle arbennig i arddangos popeth sydd gan y rhanbarth i’w gynnig, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at roi croeso cynnes i blant, pobl ifanc a theuluoedd o bob cwr o Gymru i ddathlu gyda ni ym mhen blwyddyn."
