'Trydydd croesiad dros y Fenai yn ateb amlwg' medd Prif Weinidog Cymru
'Trydydd croesiad dros y Fenai yn ateb amlwg' medd Prif Weinidog Cymru
Mae trydydd croesiad dros y Fenai yn 'ateb amlwg' yn ôl Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth, wedi i Bont y Borth orfod cau am yr eildro mewn wythnos fore Mawrth.
Mae'r bont ar gau wedi i gerbyd oedd dros ei bwysau geisio ei chroesi.
Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth yw Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd ym Môn ddydd Mawrth, ac fe ddywedodd wrth Newyddion S4C fod y ffaith fod Pont y Borth ar gau unwaith eto yn "rhwystredig iawn, iawn.
"Beth sydd angen ei sicrhau wrth gwrs ydi bod y bont yn gallu agor eto mor fuan â phosib a bod y gwaith cynnal a chadw a thrwsio rwan yn gallu digwydd mor fuan â phosib," meddai.
"Ma’ ‘na gwestiwn arall wedyn wrth gwrs o wytnwch y croesiad a mae fy Llywodraeth i’n benderfynol o fwrw ati i chwilio am yr atebion sydd eu hangen er mwyn sicrhau y gwytnwch yna ar gyfer y dyfodol."
Yn ôl y Prif Weinidog, mae "trydydd croesiad yn ateb amlwg".
"Be ‘dan ni’n chwilio amdana fo wrth gwrs ydi nid pont, ond bod yna wytnwch i’r croesiad," meddai.
"Ma’ ‘na nifer o opsiynau, be sydd genna ni’r cyfle i neud rwan wrth gwrs fel Llywodraeth ydi mynd ati yn syth, i neud yn siwr bod yr atebion gorau er mwyn rhoi’r gwytnwch yna yn ei le yn cael ei weithredu."
Mae Traffig Cymru yn dweud bod y bont at gau dros dro wrth i archwiliad gael ei gynnal.
Daw'r datblygiad wrth i filoedd o bobl deithio i’r ynys ddydd Mawrth ar gyfer pedwerydd diwrnod o gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, sydd ar gae Sioe Môn ger Gwalchmai.
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi rhyddhau datganiad yn cynghori teithwyr i "adael digon o amser ychwanegol" wrth deithio i'r maes.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Traffig Cymru: “Mae cerbyd dros bwysau wedi croesi’r bont felly mae’n rhaid cau’r ffordd er mwyn gwneud archwiliad. Byddwn yn ail agor y bont cyn gynted ag sy’n saff i wneud hynny.
“Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra, mae eich diogelwch yn holl bwysig.
“Hoffwn eich atgoffa mai cerbydau o dan 7.5 tunnell yn unig sy’n cael croesi Pont y Borth.”