Pep Guardiola i adael Manchester City wedi 10 mlynedd

Pep Guardiola

Bydd Pep Guardiola yn gadael ei swydd fel rheolwr Manchester City ar ôl ei gêm olaf ddydd Sul.

Cyhoeddodd Manchester City ddydd Gwener y bydd Guardiola yn gadael ar ôl 10 mlynedd yn y swydd.

Yn ystod y cyfnod hwnnw mae Guardiola wedi ennill 20 o brif dlysau, gan gynnwys chwe theitl yr Uwch Gynghrair, Cynghrair y Pencampwyr, tair Cwpan FA a phum Cwpan EFL.

Dan ei arweiniad, City oedd y tîm cyntaf i ennill teitl cynghrair Lloegr bedair gwaith yn olynol, ac fe wnaethon nhw ennill y trebl yn 2023.

Dywedodd Guardiola ei fod yn gwybod mai “nawr yw'r amser” i adael y clwb.

"Peidiwch â gofyn am y rhesymau dros adael. Does dim rheswm, ond dwi'n gwybod mai dyma'r amser cywir," meddai.

"Nid oes unrhyw beth yn para am byth; pe bai hynny'n wir fe fyddwn i yma am byth.

"Bydd yr holl deimladau, y bobl, yr atgofion a fy nghariad tuag at Manchester City yn para am byth.

"Felly wrth i fy nghyfnod ddod i ben, byddwch yn hapus. Mae Oasis wedi dychwelyd hefyd!

"Diolch yn fawr i chi am ymddiried ynof. Diolch am fy ngwthio, diolch am fy ngharu.

"Mae wedi bod yn gyfnod o hwyl. Dwi'n eich caru chi i gyd."

Bydd Guardiola yn ffarwelio â'r clwb ddydd Sul yn erbyn Aston Villa yn Stadiwm yr Etihad.

Mae Enzo Maresca, cyn-reolwr Chelsea a chyn aelod o staff hyfforddi Pep Guardiola yn Manchester City, ymhlith y ffefrynnau i fod yn rheolwr nesaf y clwb.

Bydd perthynas Guardiola â'r clwb yn parhau, wrth iddo gychwyn rôl fel Llysgennad Rhyngwladol City Football Group, lle bydd yn cynnig cymorth technegol ac yn gweithio ar brosiectau gwahanol gyda'r clwb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.