Ysgol St Gerard's ym Mangor i gau ar ddiwedd y flwyddyn academaidd
Mae ysgol annibynnol ym Mangor yng Ngwynedd wedi cyhoeddi y bydd yn cau ar ddiwedd y flwyddyn academaidd oherwydd pwysau ariannol cynyddol.
Bydd Ysgol Saint Gerard's, ar Ffordd Ffriddoedd yn y ddinas, yn cau ei drysau am y tro olaf ar ddydd Gwener, 3 Gorffennaf.
Mae'r ysgol yn darparu addysg i ddisgyblion rhwng pedair a 18 oed, ac mae ganddi berthynas agos â theuluoedd milwrol yr ardal.
Roedd ffioedd tymhorol yr ysgol yn amrywio o £3,884 ar gyfer y Dosbarth Derbyn i £5,936 ar gyfer Blynyddoedd 10-13 - sef tua £11,652 i £17,808 y flwyddyn.
Mewn datganiad brynhawn Gwener, dywedodd rheolwyr ac ymddiriedolwyr Ysgol Saint Gerard's bod y penderfyniad yn un "eithriadol o anodd".
"Am genedlaethau, roedd St Gerard’s yn llawer mwy nag ysgol. Roedd yn gymuned glòs a chefnogol wrth galon Bangor a Gogledd Cymru, gan lunio bywydau nifer fawr o bobl ifanc a theuluoedd dros gyfnod o fwy na chanrif," meddai'r datganiad.
"Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r pwysau ariannol wedi cynyddu’n sylweddol, gan gynnwys effaith TAW ar ffioedd ysgol, sy'n ei gwneud yn amhosib parhau.
"Ein prif ffocws nawr yw cefnogi ein disgyblion, rhieni, staff a’r gymuned ysgol ehangach yn ystod y cyfnod eithriadol o anodd hwn.
"Rydym yn deall y teimlad dwfn o golled a ddaw yn sgil y newyddion hyn, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi pawb gyda thosturi, gofal ac agoredrwydd yn yr wythnosau sydd o’n blaenau."
Ychwanegodd y bydd gwersi, clybiau a theithiau sydd eisoes wedi'u trefnu yn parhau, ac y bydd yr ymddiriedolaeth yn cefnogi disgyblion wrth iddynt baratoi ar gyfer eu camau nesaf.