Yr heddlu'n ymchwilio i ddigwyddiad wedi gêm ddarbi yn Nyffryn Nantlle

Talysarn

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i ddigwyddiad yn dilyn gêm bêl-droed rhwng dau glwb yn Nyffryn Nantlle yr wythnos hon. 

Cafodd gêm rhwng CPD Talysarn Celts a CPD Nantlle Vale ei chynnal ar gae'r Gloddfa Glai nos Fawrth, gyda Thalysarn yn ennill 1-0.

Mewn datganiad, fe ddywedodd CPD Talysarn Celts eu bod yn "yn ymwybodol o ddigwyddiad mewn tafarn leol yn dilyn ein gêm yn erbyn CPD Nantlle Vale.

"Mae’r clwb yn condemnio pob math o drais ac yn trin y mater hwn gyda’r difrifoldeb mwyaf. 

"Er na ddigwyddodd y digwyddiad hwn ar dir y clwb, ymwneud ac aelodau y clwb, nac o dan oruchwyliaeth y clwb, rydym yn cydweithio’n llawn â CPD Nantlle Vale a'r awdurdodau perthnasol ac yn cefnogi unrhyw gamau priodol. Nid oes lle i ymddygiad fel hyn yn ein cymdeithas.

"Rydym yn anfon ein cydymdeimlad a’n cefnogaeth lawn i'r sawl fu yn dyst i'r digwyddiad."
 
Ychwanegodd CPD Nantlle Vale mewn datganiad: "Hoffwn ddiolch i Bwyllgor CPD Talysarn Celts am gysylltu gyda'r clwb yn dilyn digwyddiad, ac am y gefnogaeth i'r chwaraewyr. 
 
"Mae un peth yn glir, ein bod yn sefyll gyda'n gilydd ac nid ydym yn esgusodi unrhyw fath o ymddygiad treisgar gan unrhyw gefnogwr boed yn ystod y gêm neu ar ôl oddi ar y cae."
 
Ychwanegodd yr heddlu y dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 26000405964.
 
Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.