‘Ffiaidd’ bod bechgyn a dreisiodd merched wedi osgoi carchar meddai AS o Gymru
Mae AS o Gymru sy’n ymgyrchydd amlwg dros hawliau menywod wedi dweud ei fod yn “ffiaidd” bod bechgyn yn eu harddegau a wnaeth dreisio merched wedi osgoi carchar.
Mae gwleidyddion, gan gynnwys cyn weinidog y Swyddfa Gartref, Jess Phillips, wedi beirniadu’r ddedfryd a roddwyd i dri bachgen am eu rhan wrth dreisio dwy ferch yn Sir Hamphsire yn Lloegr.
Clywodd yr achos yn Llys y Goron Southampton fod dwy ferch wedi cael eu treisio mewn dau ddigwyddiad ar wahân yn 2024 a 2025 yn nhref Fordingbridge.
Cafodd y tri bachgen, dau yn 15 oed ac un yn 14 oed, orchmynion adsefydlu ieuenctid, ac fe gafodd y ddau hŷn hefyd eu rhoi o dan drefn goruchwylio a gwyliadwriaeth ddwys.
Dywedodd AS Gŵyr, Tonia Antoniazzi, bod yr achos “yn enghraifft amlwg o’r ffordd y mae trais yn erbyn menywod a merched yn cael ei leihau a’i normaleiddio”.
“Cafodd y merched hyn eu bygwth â chyllell, eu treisio, a’u ffilmio - ac yna cafodd y ffilm honno ei rhannu,” meddai.
“Dim dedfrydau o garchar. A chanmoliaeth gan y barnwr am eu hymddygiad yn y llys. Pa neges mae hynny’n ei hanfon? Mae’n ffiaidd - ac ni ddylid caniatáu iddo sefyll.
“Mae llawer gormod o achosion eraill hefyd lle mae dedfrydu llawer rhy drugarog wedi cael ei roi am droseddau rhywiol treisgar.
“Mae’r dioddefwyr yn haeddu cyfiawnder. Mae’n rhaid edrych ar hyn ar unwaith, mae’n rhaid i’r farnwriaeth wneud yn well, ac ni ellir gadael i hyn fynd heb ei herio.”
Dywedodd Jess Phillips, a fu’n weinidog diogelu a thrais yn erbyn menywod a merched tan yn gynharach y mis hwn, bod gormod o drugaredd wedi ei ddangos at y treiswyr.
“Mae’n ymddangos bod y bobl ifanc yma, yn y bôn, yn treisio er mwyn creu cynnwys, er mwyn ei roi ar y cyfryngau cymdeithasol a’i rannu gyda’u ffrindiau, gan frolio am dreisio’r merched ifanc druan hyn,” meddai wrth Radio 4.
‘Trawma’
Yn y gwrandawiad dedfrydu ddydd Iau, dywedodd y Barnwr Nicholas Rowland wrth y diffynyddion: “Mae’n rhaid i mi gofio nad oedolion ydych chi.
“Mae’n rhaid i mi feddwl pa mor debygol ydych chi o wneud pethau difrifol eto, ac mae angen i mi wneud yn siŵr nad ydych chi’n gwneud pethau difrifol eto yn y dyfodol.”
Wrth egluro ei ddedfryd, ychwanegodd: “Dylwn osgoi troseddoli’r plant hyn yn ddiangen, a deall effeithiau eu hymddygiad a chefnogi integreiddio unwaith eto i’r gymdeithas.”
Ychwanegodd fod “pwysau cyfoedion wedi chwarae rhan fawr yn yr hyn a ddigwyddodd”.
Canmolodd y barnwr “ddewrder” y ddwy ddioddefwraig am roi tystiolaeth yn yr acos llys ac am ddarparu datganiadau ar sut roedd y troseddau wedi effeithio arnyn nhw.
Dywedodd achwynydd y digwyddiad cyntaf wrth y llys: “Nid oes neb yn haeddu trawma cael eu treisio.”
Ac mewn datganiad, disgrifiodd yr ail ferch sut roedd hi’n parhau i ddioddef o hunllefau, gan ychwanegu: “Mae’r person oeddwn i cyn y digwyddiad wedi mynd yn llwyr ac weithiau rwy’n teimlo fy mod yn galaru am y person roeddwn i’n arfer bod.”
‘Fawr o gysur’
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Hampshire, Donna Jones, wedi cynnig cefnogi teuluoedd y dioddefwyr os oedden nhw’n dymuno apelio yn erbyn y dedfrydau.
Dywedodd: “Mae hwn yn achos hynod o annifyr. Rwy’n bryderus iawn bod y bechgyn hyn yn teimlo y gallen nhw gyflawni gweithredoedd mor frawychus, eu rhannu ar-lein, a pheidio â mynd i’r carchar.
“Mae eu dedfrydau yn adlewyrchu ffocws clir ar adsefydlu yn hytrach na throseddoli. Maen nhw’n llawer rhy drugarog.
“Fel y maen nhw, nid ydyn nhw’n cynnig fawr o gysur i’w dioddefwyr wrth iddyn nhw geisio ailadeiladu eu bywydau ar ôl profiadau mor ddychrynllyd.”
Ychwanegodd: “Mae addysgu pobl ifanc am drais rhywiol ac agweddau misogynistaidd yn hollbwysig os ydyn ni am atal troseddau fel hyn rhag digwydd eto.”