Y Fenni: Cyhuddo dyn 27 oed o lofruddio dyn yn ei ugeiniau
Mae dyn 27 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn yn ei ugeiniau yn Y Fenni yr wythnos diwethaf.
Dywedodd Heddlu Gwent fod Liam Bennett o Gilwern yn parhau yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Casnewydd ddydd Sadwrn.
Cafodd swyddogion eu galw i Hen Ffordd Henffordd yn y dref am tua 06:15 ddydd Gwener 15 Mai wedi i ddyn gael ei adael gydag anafiadau a oedd yn bygwth ei fywyd.
Cafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty lle bu farw yn ddiweddarach.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd yr uwch-swyddog ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Ellen Joslyn: "Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu a ffrindiau'r dyn yn ystod yr amser anodd yma.
"Hoffem ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth wrth i ni ymchwilio i amgylchiadau'r farwolaeth drasig hon.
"Rydym yn deall y gall adroddiadau o'r math hwn beri pryder i'n cymunedau.
"Er bod ein hymholiadau'n parhau dros y dyddiau nesaf, mae'n debygol y byddwch yn gweld nifer cynyddol o swyddogion yn yr ardal."
Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2600151351.