Ymchwiliad i Andrew yn edrych ar honiadau o ymddygiad rhywiol amhriodol
Bydd ditectifs sy’n ymchwilio i Andrew Mountbatten-Windsor yn ystyried honiadau o ymddygiad rhywiol amhriodol fel rhan o’u hymchwiliad i gamymddwyn posib mewn swydd gyhoeddus.
Mae swyddogion ar hyn o bryd yn asesu honiad gan fenyw ei bod wedi cael ei hanfon gan Jeffrey Epstein i adeilad y Royal Lodge i gael rhyw gydag Andrew yn 2010, cyn mynd ar daith o amgylch Palas Buckingham.
Dywedodd Heddlu Dyffryn Tafwys: “Rydym wedi ymgysylltu â chynrychiolydd cyfreithiol y fenyw i gadarnhau, pe bai hi’n dymuno adrodd hyn i’r heddlu, fe fyddai hynny yn cael ei gymryd o ddifrif a’i drin â gofal, sensitifrwydd a pharch i’w phreifatrwydd a’i hawl i aros yn ddienw.
“Rydym yn cydnabod pa mor anodd y gall fod i siarad am brofiadau o’r natur hon, a bydd unrhyw gyswllt â’r heddlu yn cael ei arwain gan ei dymuniadau hi, pryd ac os bydd hi’n teimlo’n barod ac yn gallu gwneud hynny.”
Roedd Andrew yn gynrychiolydd arbennig y DU dros fasnach a buddsoddiad rhyngwladol rhwng 2001 a 2011, pan gamodd i lawr wrth wynebu cwestiynau ynglŷn â’i gyfeillgarwch â’r pedoffeil Jeffrey Epstein.
Mae wedi gwadu gwneud unrhyw beth o’i le.
Gall diffiniad cyfreithiol y drosedd ‘camymddwyn mewn swydd gyhoeddus’ gynnwys gwybodaeth ariannol gyfrinachol, camymddwyn ariannol, esgeuluso dyletswydd yn fwriadol, ac ymddygiad rhywiol amhriodol.
Mae hefyd yn cynnwys llygredigaeth ('corruption'), gwrthdaro buddiannau, gwyrdroi cwrs cyfiawnder, anonestrwydd neu ymddygiad twyllodrus, a chamymddwyn sy’n arwain at elw personol.
Deellir bod ditectifs yn Heddlu Dyffryn Tafwys yn poeni bod y cyhoedd yn credu eu bod yn canolbwyntio ar gyhuddiadau bod y cyn-dywysog wedi rhannu gwybodaeth tra’n gynrychiolydd masnach yn unig, pan fo telerau cyfreithiol y drosedd sy’n destun ymchwiliad yn llawer ehangach mewn gwirionedd.
'Cymhleth'
Mae disgwyl i ymchwiliad Heddlu Dyffryn Tafwys gymryd peth amser. Mae tîm o ymchwilwyr profiadol yn gweithio ar yr achos ac mewn cysylltiad cyson ag erlynwyr i gael cyngor.
Cafodd Andrew ei arestio ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus ar 19 Chwefror, a’i holi dan rybudd cyn cael ei ryddhau dan ymchwiliad.
Cafodd ei gyn-gartrefi yn Windsor a Norfolk eu chwilio.
Deellir bod ditectifs yn edrych drwy dystiolaeth a gafodd ei hadfer yn ystod yr ymgyrch.
Maent hefyd wedi gwneud cais ffurfiol i Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau am fersiynau gwreiddiol ffeiliau Epstein, ond nid ydynt wedi derbyn unrhyw wybodaeth eto.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Dyffryn Tafwys, Oliver Wright: “Mae ein hymchwiliad i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus yn parhau.
“Mae camymddwyn mewn swydd gyhoeddus yn drosedd sy’n gallu cymryd gwahanol ffurfiau, gan wneud hwn yn ymchwiliad cymhleth.
“Mae ein tîm o dditectifs profiadol iawn yn gweithio’n drylwyr drwy swm sylweddol o wybodaeth sydd wedi dod i law gan y cyhoedd a ffynonellau eraill.
“Rydym wedi ymrwymo i gynnal ymchwiliad trylwyr ar bob trywydd sy’n rhesymau, ble bynnag y gallent arwain."
Ychwanegodd: “Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni drwy’r sianeli cyswllt arferol nad ydynt yn rhai brys, gan gynnwys porth ar-lein Heddlu Dyffryn Tafwys.
“Rwy’n deall lefel uchel y diddordeb yn y gwaith hwn, ond byddwch yn amyneddgar wrth i ni barhau i symud ein hymchwiliad yn ei flaen a hynny yn weithredol.
“Byddwn yn darparu diweddariadau pellach i’r cyhoedd a’r cyfryngau pan fydd hynny’n briodol.”